Damwain Barbados: Apêl yn Sir Gâr

Clive Rees Image copyright Llun y Teulu
Image caption Clive Rees

Mae teulu dyn o Sir Gaerfyrddin yn ceisio codi £65,000 sydd ei angen i`w hedfan yn ôl o Barbados.

Roedd Clive Rees o'r Tymbl yn dathlu ei ben-blwydd yn 65 oed ar yr Ynys yn y Caribî gyda'i wraig Sonia pan gafodd ei daro gan gar.

Mae e mewn uned gofal dwys ar ôl datblygu llid ar yr ysgyfaint, a thrafferthion anadlu.

Mae'r teulu yn ceisio codi arian iddo gael dychwelyd mewn ambiwlans awyr, gan nad oes modd iddo deithio ar awyren arferol.

Maen nhw wedi apelio am gymorth ariannol gan bobl, a busnesau yn dilyn y digwyddiad ar 13 Mai.

Dywedodd merch Clive Rees, Tracy bod yr ymateb wedi bod yn arbennig.

"I ni wedi codi rhyw £2,000 hyd yma," meddai.

"Allai ddim credu pa mor hael yw pawb. Diolch o waelod ein calonnau."

Byddai'r £65,000 yn talu am ambiwlans awyr i deithio i Barbados ac yn ôl i'r DU, a thîm o staff meddygol i ofalu am Mr Rees.