Dale Steyn yn arwain Morgannwg i'r brig

Image copyright Huw Evans picture agency

Mae bowliwr cyflym Morgannwg Dale Steyn yn dweud ei fod wrth ei fodd yng Nghymru, ar ôl cymryd 9 wiced mewn 3 gem.

Nos Wener fe gymerodd Steyn 4 wiced am 18 rhediad wrth i Forgannwg drechu Caint.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Morgannwg wedi codi i frig Grŵp y De yn y T20.

"Rwy'n caru e, i gael y teimlad yna, teimlo'r egni'n llifo wrth gymryd wicedi" meddai Steyn, sydd wedi gwella yn ddiweddar ar ôl cael anaf i'w ysgwydd.

Mae Steyn yn chwarae i Forgannwg yn y T20 am chwe gem yn unig.

Fe gymerodd e dair wiced yn erbyn Hampshire, dwy wiced arall yn erbyn Caerloyw, a pedair arall yn erbyn Caint wrth iddo helpu Morgannwg sicrhau buddugoliaethau gwerthfawr.

Bydd gan gefnogwr Morgannwg un cyfle i weld Steyn mewn crys Morgannwg pan fydd e'n chwarae erbyn Surrey yng Nghaerdydd nos Wener nesaf.

Fe fydd e'n teithio wedyn i chwarae yn India'r Gorllewin ar gymal nesaf ei yrfa criced rhyngwladol.