Car yn taro bachgen 11 oed

Cafodd bachgen unarddeg oed ei gludo i'r ysbyty ar ôl iddo gael ei daro gan gar yn Aberdaugleddau.

damwain Image copyright Google
Image caption Cafodd y bachgen ei daro ar Ffordd y Gogledd yn Aberdaugleddau.

Cafodd bachgen unarddeg oed ei gludo i'r ysbyty ar ôl iddo gael ei daro gan gar yn Aberdaugleddau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn Great North Road, Aberdaugleddau tua 14:50 dydd Sadwrn.

Mae'r bachgen yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae ganddo anafiadau difrifol iawn.