Cyhoeddi enillwyr gwobrau gemau Bafta Cymru

Boj Smoothies Image copyright Thud Media/Pesky Productions

Cafodd enillwyr gwobrau gemau Bafta Cymru eu cyhoeddi mewn seremoni yn y Tramshed yng Nghaerdydd.

Aeth y brif wobr i Rantmedia am y gem orau, TV Sports Soccer.

Enillodd Thud Media gymeradwyaeth am eu cyrhaeddiad artistig, dyluniad gemau a sain a cherddoriaeth yn y gêm addysgiadol i blant, Boj Smoothies.

Dywedodd cyfarwyddwr Bafta Cymru, Hannah Raybould: "Rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r diwydiant gemau sydd ar gynnydd yng Nghymru."

Enillodd Cube Kids gymeradwyiaeth dechnegol am y gêm Teltubbies.


Enillwyr

Y Gêm Orau - Rantmedia am TV Sports Soccer

Cymeradwyaeth Cyrhaeddiad Artistig - Thud Media/Pesky Productions am Boj Smoothies

Cymeradwyaeth Cyrhaeddiad Technegol - Cube Kids am Teletubbies

Cymeradwyiaeth Dyluniad gemau - Thud Media/Pesky Productions am Boj Smoothies

Cymeradwyiaeth Sain a Cherddoriaeth - Thud Media/Pesky Productions am Boj Smoothies