Dyn yn ddifrifol wael wedi ymosodiad yn Ibiza

James Hallet Image copyright Wales News Service
Image caption James Hallett.

Mae dyn o ardal Caerffili yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad yn Ibiza.

Roedd James Hallett, 25 oed, ar wyliau ar yr ynys pan gafwyd hyd iddo'n anymwybodol ar stryd fore Llun.

Roedd wedi cael anafiadau difrifol i'w ben.

Mae Mr Hallett, o'r Coed Duon yn Sir Caerffili, yn cael etriniaeth yn Ysbyty Son Espases ym Majorca.

'Poeni'n ofnadwy'

Dywedodd ei gariad, Jessica Jones, 23 oed: "Rydym, yn naturiol, yn poeni'n ofnadwy - mae'n gynnar a dy' ni ddim yn gwybod sut mae pethau'n mynd i fynd."

Roedd y cwpl wedi gwylio gêm yr Almaen yn erbyn Wcrain mewn bar ddydd Sul 12 Mehefin, meddai, cyn i Mr Hallet wahanu o weddill y grŵp.

"Ry' ni'n aros wrth wely James ac yn aros i glywed beth sydd gan y meddygon i ddweud wrthon ni."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn cefnogi teulu i Brydeiniwr a gafodd ei gludo i'r ysbyty yn Palma ar 13 Mehefin. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â'r heddlu a;r awdurdodau lleol."