Rhan o'r M4 wedi cau

Roundabout Image copyright Google
Image caption Cylchdro Sarn

Mae rhan o draffordd yr M4 i'r gorllewin wedi cau ar ôl i lori fynd ar dân ger Pen-y-bont ar Ogwr nos Fawrth.

Cafodd y tân ei ddiffodd ond mae traffig yn cael ei ddargyfeirio o Gyffordd 36, Gwasanaethau Sarn.

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio o'r draffordd i'r cylchdro yn Sarn ac yna yn ôl i'r draffordd.

Mae disgwyl i'r draffordd ailagor ganol dydd.