Cadeirydd newydd eisiau cynnig mwy o arlwy Gymraeg

Linda Tomos

Mae cadeirydd newydd Bwrdd Ymgynghorol Cymreig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dweud ei bod eisiau adeiladu ar y gwaith o gynnig arlwy yn Gymraeg i'r cyhoedd.

Yn ôl Linda Tomos, mae yna 'dipyn o waith' wedi ei wneud yn y pum mlynedd diwethaf ond mae mwy i wneud eto.

"Mi es i i Gastell Powys yn ddiweddar a chael sgwrs hir iawn gyda rhywun oedd yn gweithio fel gwirfoddolwr, yn dod o Gaernarfon. A gaethon ni sgwrs hir iawn am hanes y tŷ, hanes y stad yn Gymraeg. Hoffwn i deimlo bod 'na bobl ymhob safle yng Nghymru sy'n gallu cael y sgwrs yma ac yn gallu mynd â grwpiau tywys rownd yn Gymraeg.

"Ond i fod yn deg, mae'r ymddiriedolaeth eisoes wedi dechrau ar y gwaith yma. Dw i'n meddwl mai fy rôl i ydy gofalu eu bod nhw'n cael y gefnogaeth maen nhw angen i symud y gwaith yn ei flaen."

Cadeirydd am gyfnod o dair blynedd fydd Linda Tomos, sydd ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol. Ymhlith dyletswyddau'r bwrdd mae cynghori ar sut mae strategaeth yr ymddiriedolaeth yn cael ei weithredu yng Nghymru, cyfrannu at faterion o bwys a rhoi gwybodaeth i'r ymddiriedolaeth am bobl ac anghenion Cymru.

Newid hinsawdd

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw'r tirfeddianwr preifat mwyaf yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am 45,000 hectar o dir a 157 o filltiroedd o'r arfordir. Mae'r elusen hefyd yn gyfrifol am nifer o leoliadau hanesyddol fel Castell Powys, Tŷ Tredegar a Llanerchaeron.

Yn ystod ei chyfnod fel cadeirydd, mae Linda Tomos yn awyddus i fwrw ymlaen gyda strategaeth 10 mlynedd y corff, sy'n cynnwys canolbwyntio ar gadwraeth, diwylliant a hanes Cymru.

Mae'n rhannu pryderon Rheolwr Gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, y Fonesig Helen Ghosh, am ddinistr tirwedd a bioamrywiaeth ac yn cytuno mai newid hinsawdd yw'r her fwya' sy'n wynebu'r elusen yn y dyfodol.

Image caption Mae'r ymddiriedolaeth wedi prynu ffarm yn Llandudno yn ddiweddar a'r bwriad ydy gwneud yn siwr bod y defaid, fydd yn pori, ddim yn dinistrio'r tir

Mae stormydd cyson, erydu'r arfordir a chynnydd yn nifer y pryfed yng nghartrefi hanesyddol yr ymddiriedolaeth yn ystod gaeafau gwlyb a chynnes i gyd yn cael effaith.

Blaenoriaethu cadwraeth ac osgoi newid hinsawdd yw'r her i'r corff yng Nghymru, felly, medd Ms Tomos.

"Wrth gwrs, fyddwch chi wedi gweld yn ddiweddar y newyddion am Fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno, lle fydd gwaith arloesol yn digwydd i ofalu na fydd defaid fydd yn pori yn dinistrio (y tir) fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Hoffwn weld mwy o hynny'n digwydd yng Nghymru ac i gefnogi'r tenantiaid, sydd, rydw i'n gwybod, eisiau ffermio'n fwy cynaliadwy."

Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn edrych ar ffyrdd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

'Straeon anodd'

Y nod yw lleihau defnydd ynni 20% erbyn 2020 a chynhyrchu hanner yr ynni sydd ei angen o ffynhonellau adnewyddadwy erbyn hynny hefyd.

"Mae o'n bwysig o ran costau, os dim byd arall, bod ni'n edrych ar ffyrdd mwy amgen i redeg y tai a'r stadau yn gyffredinol. Mae hon yn elfen bwysig lle dw i'n teimlo bydd y corff yn gallu dylanwadu ar ymarfer da mewn llefydd eraill yng Nghymru hefyd."

Yn ogystal â'r elfen amgylcheddol, mae Linda Tomos eisiau i'r elusen barhau i ddweud hanesion ynglŷn â'r adeiladau nodedig yn y gobaith o ddenu cynulleidfa newydd, hyd yn oed pan mae'r rheiny'n straeon anodd. Mae'n cyfeirio at Gastell Penrhyn a'r ffaith bod yna'n dal deimladau chwerw gan rai ynglŷn â'r streic fawr oedd yno.

"Mae'n bwysig bod ni'n dweud y straeon yma achos straeon perthnasol a phersonol ydy'r rhain a dw i'n meddwl mai dyna mae pobl eisiau clywed."