Darganfod dyn ifanc yn farw mewn car

Heddlu

Mae dyn ifanc wedi cael ei ddarganfod yn farw mewn car gyda dryll ger ei ochr.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth William Thomas, 18 oed, ond nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys, bod swyddogion yn ymchwilio i farwolaeth sydyn Mr Thomas, wedi i'w gorff gael ei ddarganfod mewn car yn ardal Pum Heol o Lanelli am 15:30 ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa Crwner Caerfyrddin: "Cafodd cwest i farwolaeth William Thomas ei agor yn swyddogol y bore 'ma ag yna ei ohirio tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau."