Gadael: Y camau nesaf

Wales flag on European Commission

Nawr fod Prydain wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd mae Emyr Lewis, cyfreithiwr sy'n arbenigo yng nghyfraith gyfansoddiadol Ewrop a Chymru yn crynhoi beth fydd y camau nesaf i Brydain. Mae'n awgrymu mai dim ond dechrau'r daith oedd canlyniad y refferendwm.

Mae'r Deyrnas Gyfunol yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd oherwydd ei bod yn rhan o gytundeb rhyngwladol gyda'r aelodau eraill. Nid yw canlyniad y refferendwm ynddo'i hun yn ddigon i ddad-wneud hynny.

Dan y cytundeb, sydd hefyd yn rhan o gyfraith Brydeinig, mae'n rhaid dilyn proses arbennig. Yr hyn sy'n cychwyn y broses honno yw Llywodraeth y DG yn rhoi rhybudd swyddogol i Gyngor y Gweinidogion bod y DG yn dymuno gadael yr Undeb. Dyma'r man cychwyn go iawn

Wedyn rhaid i'r Undeb drafod a chytuno gyda'r DG y telerau ar gyfer gadael, gan gynnwys trefniadau ar gyfer y berthynas rhwng yr Undeb a DG yn y dyfodol.

Os nad yw'r telerau hynny wedi eu cytuno o fewn dwy flynedd wedi'r rhybudd swyddogol, yna mae'r DG yn gadael yr Undeb yn awtomatig, ac mae holl gyfreithiau Ewropeaidd yn peidio â bod yn weithredol yn y DG.

Felly bydd Cymru'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd am o leiaf dwy flynedd arall.

Image caption Fe fydd gan y DU flynyddoedd o waith negydu gyda'r UE er mwyn gadael yn swyddogol

Ansicrwydd mawr

Yr her cyntaf i'r Llywodraeth bydd penderfynu pryd i roi'r rhybudd swyddogol. Os yw'n gweithredu yn rhy gynnar, yna mae posibilrwydd go iawn na fydd digon o amser i ddod i gytundeb efo'r Undeb am delerau'r ymadawiad, ac y bydd ymadawiad awtomatig yn digwydd.

Byddai hynny'n creu ansicrwydd mawr.

Dim ond os yw holl wledydd yr Undeb yn cytuno i wneud hynny y gellir estyn y cyfnod o ddwy flynedd er mwyn dod i gytundeb. Felly does ond rhaid i un wlad yn Ewrop ystyried nad yw er ei budd hi i wneud hynny i rwystro estyniad o'r fath.

Os yw'r Llywodraeth yn oedi cyn rhoi'r rhybudd, ar y llaw arall, bydd hynny'n ymddangos fel pe bai'n gwrthod derbyn canlyniad pleidlais y refferendwm.

Yr her fwyaf fodd bynnag bydd cytuno telerau newydd gydag Ewrop. Os yw'r DG am barhau yn rhan o'r farchnad rydd Ewropeaidd, ond y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, yna fe all wneud hynny drwy fod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA), fel y mae Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein.

Canlyniadau pellgyrhaeddol

Byddai hynny'n golygu, fodd bynnag, y byddai rhaid i'r DG fabwysiadu'r rhan fwyaf o gyfreithiau Ewrop, gan gynnwys rhyddid symud gweithwyr (sef bwgan mawr y gwrth-fewnfudwyr) ac hefyd gyfrannu'n sylweddol i goffrau'r Undeb Ewropeaidd.

Image caption Sut fath o berthynas fydd gan y DU ac Ewrop o hyn ymlaen?

Os nad yw'r DG yn dymuno gwneud hynny, yna bydd rhaid i'r Llywodraeth ystyried pa fath o berthynas arall sydd yn bosibl ei chytuno. Os na ddaw cytundeb, yna bydd y DG y tu allan i'r farchnad rydd, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol i weithwyr a busnesau o Brydain.

Ar ben hynny, mae llawer iawn o gyfraith ddomestig Prydain yn deillio o gyfraith Ewrop. Ni fydd ymadael â'r Gymuned Ewropeaidd yn diddymu'r gyfraith honno mewn meysydd megis hawliau gweithwyr, yr amgylchedd a diogelu data.

Her arall i'r Llywodraeth fydd ystyried i ba raddau y dylid mynd â'r fwyell at y cyfreithiau hynny.

Dechrau'r daith

O ran Cymru yn benodol, bydd tipyn o waith cymhleth a manwl i'w wneud i ystyried sut y bydd yr ariannu Ewropeaidd cyfredol (sydd i fod i bara nes 2020) yn cael ei drin. A fydd yn cael ei gwtogi, neu hyd yn oed ei ddiddymu? A fydd yr Undeb yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddod i gytundeb dros Gymru ar wahân i Lywodraeth Prydain, fel y mae Carwyn Jones wedi ei awgrymu?

Felly dim ond dechrau'r daith yw'r refferendwm, nid ei diwedd.