Cynnig rhyddid tref Y Bala i Gareth Bale

Y Bale Image copyright Mari Williams

Wedi i dref Y Bala newid ei henw i'r 'Bale' i anrhydeddu seren y tîm pêl-droed cenedlaethol, mae cynghorydd lleol nawr yn bwriadu cynnig rhyddid y dref i'r chwaraewr.

Cafodd y dref ei hailenwi ar ôl Gareth Bale, sydd wedi sgorio tair gôl yng nghystadleuaeth Euro 2016 hyd yma.

Daeth y syniad gan olygydd papur newydd Y Cyfnod, Mari Williams, ar ôl buddugoliaeth Cymru yn erbyn Slofacia.

Nawr mae cynghorydd eisiau rhoi rhyddid y dref i'r chwaraewr o Gaerdydd am ei fod yn "llysgennad gwerth chweil i Gymru".

'Afreal'

Dywedodd Dilwyn Morgan, cynghorydd sir yng Ngwynedd: "Mae Gareth Bale, oherwydd ei enw ac oherwydd ei fod yn llysgennad gwerth chweil i Gymru, rŵan wedi cael ei gysylltu trwy'r byd hefo'n tref ni.

"Mi fydd angen i mi wneud ychydig o ymchwil, ond rydw i'n gobeithio trafod hefo Cyngor Tref Y Bala yn eu cyfarfod nesaf os oes modd cynnig rhyddid tref Y Bala i Gareth Bale."

Ychwanegodd: "Mae'r stori yma wedi dod â llawer o sylw i'r dref a'r ardal dros y byd ac edrychwn ymlaen efallai i Gareth Bale a gweddill carfan Cymru ymweld â'r Bale ryw ddydd."

Image copyright Getty Images

Mari Williams gynigiodd y syniad yn wreiddiol, gan ysgrifennu yn ei cholofn olygyddol bod "y canu a'r dathlu oedd i'w glywed yn y stadiwm yn dyst i gefnogwyr a ddisgrifiwyd gan Bale fel y cefnogwyr gorau yn y byd".

Ar ôl i sianeli teledu a radio a gwefannau newyddion ar draws y byd adrodd y stori, dywedodd Mrs Williams bod enw'r Bala bellach wedi "mynd rownd y byd".

"Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i'n darllen am dre'r Bala mewn papurau fel y Tribune India, Spanish News Today, Radio Columbia, Fox Sports, CNN Malaysia, Sky Sport, Y Mirror, BBC News online, ITV, Daily Mail, Guatemala News, Honduras News.

"Roedd o'n afreal braidd ond yn wych!"

Straeon perthnasol