Dau newid i Gymru i wynebu Seland Newydd yn Dunedin

Rob Evans Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rob Evans sy'n cymryd lle Gethin Jenkins

Mae tîm rygbi Cymru wedi gwneud dau newid yn y rheng flaen ar gyfer eu gem yn erbyn Seland newydd yn Dunedin ddydd Sadwrn.

Y prop Rob Evans sy'n cymryd lle Gethin Jenkins, sydd wedi dychwelyd i Gymru ar ôl cael ei anafu ac mae Tomas Francis wedi ei ddewis yn lle Samson Lee, sydd ar y fainc.

Does dim newid i weddill y blaenwyr ers y golled i'r Crysau Duon yn Wellington.

Yr un saith chwaraewr fydd yn dechrau yn yr olwyr hefyd gyda Rhys Webb a Dan Biggar yn haneri.

Partneriaeth gyfarwydd sydd yng nghanol y cae wrth i Jamie Roberts ddechrau gyda Jonathan Davies, ac yna Hallam Amos, Liam Williams a Rhys Patchell sy'n cyflawni'r tîm.

Mae Seland Newydd wedi gwneud pum newid, gan gynnwys dewis Beauden Barrett yn lle Aaron Cruden yn safle'r maswr.

Bydd Elliott Dixon yn ennill ei gap cyntaf, ar ôl cael ei ddewis yn safle'r blaenasgellwr yn lle Jerome Kaino.

Cymru: Rhys Patchell (Gleision), Liam Williams (Scarlets), Jonathan Davies (Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Harlequins), Hallam Amos (Dreigiau), Dan Biggar (Ospreys), Rhys Webb (Gweilch), Rob Evans (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Luke Charteris (Racing 92), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Sam Warburton (Gleision, C), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Seland Newydd: Israel Dagg; Ben Smith, George Moala, Ryan Crotty, Julian Savea; Beauden Barrett, Aaron Smith; Joe Moody, Dane Coles, Charlie Faumuina, Brodie Retallick, Sam Whitelock, Jerome Kaino, Sam Cane, Kieran Read (C).