Y Gymraeg a babis y ffin

Sesiwn blasu ABC Image copyright Bethan Maria Williams
Image caption Bethan a rhai o famau a babis y Rhos mewn sesiwn blasu ABC - amser babis Cymraeg.

Mae un o gyn staff y cynllun hybu'r Gymraeg, Twf, wedi penderfynu cychwyn busnes ar ei liwt ei hun er mwyn cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i deuluoedd newydd yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd Bethan Williams, sy'n ferch i gyn gôl-geidwad Cymru Dai Davies, yn dechrau cynnal sesiynau Cymraeg i rieni a babis fis Gorffennaf ar ôl iddi golli ei swydd pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Twf yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2016.

Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno cynllun newydd yn ei le, Cymraeg i Blant sy'n cael ei redeg gan y Mudiad Meithrin.

Nod y cynllun ydy "cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg" drwy hybu addysg Gymraeg ac annog rhieni i gyflwyno'r Gymraeg yn gynnar i'w plant.

Ond dywed Bethan nad ydy hi'n deall pam nad yw Sir y Fflint na Wrecsam ymysg yr ardaloedd sy'n cael eu targedu "fel prif ffocws i'r gwaith" gan y cynllun newydd.

Conwy yw'r unig ardal yn y gogledd sy'n cael ei thargedu ar hyn o bryd.

Dywed y Mudiad fod yr ardaloedd sy'n cael eu targedu wedi eu dewis "yn seiliedig ar dystiolaeth o le bydd cefnogaeth ddwys yn cael yr effaith mwyaf i gynyddu nifer y plant sy'n symud o'r cylch Ti a Fi i'r cylch meithrin ac ymlaen i'r sector addysg Gymraeg."

Mae'r gyllideb oedd ar gael i Twf wedi ei thorri o £700,000 i £500,000.

Bydd y Mudiad yn dal i gynnal grwpiau Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin yn y gogledd ddwyrain a bydd ganddyn nhw "dîm taleithiol" o staff yn cefnogi'r gwaith yn y gogledd ddwyrain a'r gogledd orllewin.

Mae Bethan yn croesawu hyn ond fe fu'n dweud wrth Cymru Fyw pam ei bod yn credu bod angen mwy o wasanaethau Cymraeg yn y gogledd ddwyrain i helpu rhieni newydd yn y cyfnod cynnar ar ôl geni babi.


Digon ar gael yn Saesneg

Dwi'n ei ffeindio hi'n anodd iawn deall pam fod ardal sydd mor agos i'r ffin â Sir y Fflint ddim yn haeddu'r gefnogaeth wyneb yn wyneb a gafwyd yn flaenorol i gefnogi teuluoedd i ddefnyddio'r Gymraeg

Fel mam sy' 'di magu tri o blant yn yr ardal dwi'n gwybod fod 'na ddigon o wasanaethau cyfrwng Saesneg ar gael. Nes i fynd â'r mab cyntaf i ambell un o'r sesiynau yma a jyst teimlo ei bod mor annaturiol i fi ganu yn Saesneg efo'r mab!

Dwi'n meddwl fod gweithio efo Twf am gyfnod wedi rhoi hyder imi sylweddoli y medra' i fentro a chynnig gwasanaeth tebyg i'r gwasanaethau Saesneg yna ond drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r grwpiau dwi 'di bod yn eu rhedeg ar ran Twf wedi bod yn brysur tu hwnt yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly mi benderfynais wynebu'r her o ddechrau busnes fy hun i drio cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg safonol i deuluoedd newydd yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam.

Ryden ni'n lwcus iawn yn y gogledd ddwyrain, mae 'na amrywiaeth o grŵpiau Ti a Fi ar hyn o bryd ac maen nhw'n amrywiol o ran pa rieni sy'n mynychu a beth ydi eu cefndir ieithyddol. Mae hefyd yn amrywio yn ôl oedran y plant.

Arfer efo'r Gymraeg

Ond beth sydd ar goll yn Sir y Fflint a Sir Wrecsam erbyn hyn ydy darpariaeth Gymraeg ar gyfer babanod cyn eu bod nhw'n medru symud, y misoedd cynnar 'na lle mae babi eisiau lot o fwydo, lot o gysgu.

Be' mae mae rhieni eisiau 'ella, ydy cyfle i ddod at ei gilydd, siarad am y sialensau maen nhw'n ei wynebu - codi yn y nos, y babi'n cael trafferth efo bwydo - a rhannu profiadau a chreu cyfeillgarwch newydd efo rhieni eraill sy'n profi'r heriau yma ar yr un pryd.

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'n bwysig i rieni newydd rannu profiadau mewn awyrgylch gyfeillgar a hynny yn y Gymraeg meddai Bethan.

Mae dod allan o'r tŷ a mynd i Ti a Fi am y tro cynta' ar ben eich hun yn gallu bod yn anodd iawn a be' roedd Twf yn ei wneud oedd cynnal grŵp i rieni ddod i 'nabod ei gilydd mewn ffordd eitha' clos a dod i arfer efo defnyddio'r Gymraeg yn y grŵp yne.

Wedyn roedden nhw'n gallu trosglwyddo efo criw o ffrindiau i'r Ti a Fi pan roedden nhw'n barod i'r plant gael profiadau ehangach.

Fy nod ydy medru dod â siaradwyr Cymraeg at ei gilydd ynghyd â phobl sydd efallai erioed wedi ystyried bod y Gymraeg yn opsiwn i'w teuluoedd nhw a hefyd rhoi cyfle i rieni drafod a gofyn cwestiynau ynghylch sut mae dwyieithrwydd yn gweithio - trio helpu rhieni i fod yn falch o'r Gymraeg a pheidio bod yn swil i ddefnyddio'r Gymraeg mewn pob math o sefyllfaoedd.

'Angen cefnogaeth'

Fe wnaeth Eisteddfod yr Urdd ddod â lot o gyfle i hyrwyddo'r Gymraeg yn lleol. Dwi 'di clywed am lot o deuluoedd hŷn yn dweud nad oedden nhw erioed wedi ystyried addysg Gymraeg i'w plant cynt.

Mae prysurdeb yr Eisteddfod wedi rhoi cyfle i bobl ddod i adnabod ei gilydd a dwi'n meddwl ella ei fod o wedi codi fy hyder i yn y Gymraeg yn fy ardal i, bod 'na bobl yne sydd â diddordeb yn yr iaith ond jyst angen y gefnogaeth.

Image copyright Thinkstock
Image caption "Cynta' i gyd mae'r plentyn bach yn clywed y Gymraeg, gorau i gyd" meddai'r Mudiad Meithrin.

Dwi'n enedigol o Lerpwl achos roedd Dad yn chwarae fel gôl-geidwad i dîm pêl-droed Everton ar y pryd, a dwi mor werthfawrogol i'm rhieni eu bod nhw 'di gwneud yr ymdrech a 'di cael y weledigaeth fod siarad Cymraeg yn mynd i fod o fantais i fi.

Dwi wirioneddol isho cefnogi rhieni sy'n dymuno i'w plant ddod yn rhugl yn y Gymraeg ac er mwyn gwneud hynny rhaid i ni ddefnyddio'r iaith yn ddyddiol mewn pob sefyllfa

Dwi'n credu bod llwyddiant tîm pêl droed Cymru a'u defnydd nhw o'r Gymraeg mewn cynhadleddau i'r wasg a chlipiau S4C hefyd yn codi hyder, diddordeb a balchder pobl yn ein diwylliant.

Hawdd 'colli'r ffordd'

Maen nhw'n dweud fod y penderfyniad yma i ganolbwyntio Cymraeg i Blant ar ardaloedd penodol yn ymwneud ag ystadegau. Dwi'n pryderu bod canolbwyntio ar yr ystadegau yn golygu bod arian yn cael ei wastraffu achos mae'n mynd i gymryd amser i'r prosiect gael ei sefydlu yn yr ardaloedd newydd.

Pan rydych chi'n canolbwyntio gormod ar ystadegau mae posib colli'r ffordd a pheidio rhoi'r gefnogaeth wirioneddol fwyaf gwerthfawr ac effeithiol mewn ardal.


Mae Mudiad Meithrin yn dweud eu bod yn "parhau i weithio gyda babis bach gan fod Cylchoedd Ti a Fi wedi eu hanelu at blant newydd-anedig hyd at oedran ysgol."

Maen nhw hefyd yn cyfeirio at y ffaith nad oedd Twf yn weithredol ym mhob ardal 'chwaith.

Prif nod Cymraeg i Blant meddent ydy "cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg trwy gynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i rieni, darpar rieni a'u teuluoedd ar fuddion addysg Gymraeg a chyflwyno'r Gymraeg yn gynnar i'w plant.

"Gwyddom fod addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg yn gwbl allweddol i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynta' i gyd mae'r plentyn bach yn clywed y Gymraeg, gorau i gyd."