Carchar am 26 mlynedd am lofruddio landlord Abertawe

Alec Warburton (left) and David Ellis
Image caption Alec Warburton (chwith) a David Ellis

Mae David Craig Ellis wedi ei ddedfrydu i 26 mlynedd o garchar am lofruddio ei landlord.

Fe gafwyd yn euog o lofruddio Alec Warburton gan reithgor yn llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Dywedodd y barnwr Mr Robin Knowles fod hon yn llofruddiaeth a gafodd ei chyflawni gyda'r "disgwyliad o elwa o ganlyniad i'r farwolaeth".

"Roedd yn achos o ddifrifoldeb mawr. Roedd yna agweddau gwaethygol i'r achos. Mae rhain yn cynnwys cynllunio... a chuddio'r corff."

Dywedodd y barnwr y bydd dan glo am o leia' 26 mlynedd cyn y bydd yr awdurdodau'n ystyried ei ryddhau.

Fe wnaeth David Craig Ellis, 41 oed, daro Alec Warburton, 59 oed, yng nghefn ei ben gyda morthwyl yn ei gartre' yn Sgeti fis Gorffennaf 2015.