Galw i wella gwasnaethau Cymraeg byrddau iechyd

Betsi Cadwaladr

Mae adroddiad newydd yn dod i'r casgliad mai'r ddau fwrdd iechyd sydd a'r canran uchaf o bobl yn siarad Cymraeg sy'n perfformio waethaf o ran darparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae 36.7% o bobl ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a 30.8% o bobl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn siaradwyr Cymraeg, o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol o 19%.

Ond mae Ceidwadwyr Cymru'n dweud fod data'r Llywodraeth mewn adroddiad ar "Weithlu gofal sylfaenol a'r iaith Gymraeg" yn dangos fod nifer y staff sydd ar gael i weithredu anghenion ieithyddol y byrddau yn ddiffygiol iawn.

Chwech meddyg teulu cyfrwng Cymraeg sydd gan Betsi Cadwaladr a Hywel Dda am bob 10,000 o siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Ffeithiau'n 'achosi gofid'

Hywel Dda sydd a'r canran ucha o ddefnyddwyr sy'n siarad Cymraeg sydd wedi eu cofrestru fel rhai sydd yn "wael neu'n wael iawn eu hiechyd", sef 28.7%, o'i gymharu â 21.1% yn Betsi Cadwaladr. 10.8% yw'r canran cenedlaethol.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar Wasanaeth Cymdeithasol, Pobl Hŷn a'r Iaith Gymraeg, mae'r ffeithiau'n achos gofid

"Mae'n bryderus mai'r byrddau iechyd sydd a'r gofyn mwyaf am ofal iechyd cyfrwng Cymraeg sydd â'r lleiaf o adnoddau i'w gynnig."

"Mae ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ei gwneud hi'n glir fod 90% o siaradwyr Cymraeg, yn cytuno, pan ofynnwyd iddyn nhw, y dylai siaradwyr yr iaith fod a'r hawl i fynegi eu hunain drwy'r Gymraeg pan yn delio â'r gwasanaeth iechyd, lle bynnag y maen nhw'n byw."

"Yn wir, mae strategaeth iaith Llywodraeth Cymru ei hun yn ei gwneud hi'n glir bod dyletswydd ar y GIG i gynnig gwasanaeth drwy'r Gymraeg i gleifion, serch hynny, dim ond 3-4% o gleifion sy'n cael cynnig o'r fath."

Hyder 'yn diflannu'

"Mae yna fethiant clir yn y fan hyn gan y Llywodraeth i recriwtio digon o siaradwyr Cymraeg i fyrddau iechyd gwledig, sydd nid yn unig yn fater diwylliannol, ond un iechyd hefyd."

"Mae'n hanfodol fod cleifion yn teimlo y gallan nhw fynegi pryderon am eu hiechyd yn eu dewis iaith, fel arall bydd hyder yng ngofal iechyd yn diflannu - yn enwedig o fewn gofal sylfaenol - a allai arwain at fwy o bwysau yn ein hysbytai, sydd eisoes o dan straen.

"Rwy'n galw ar y Gweinidog Cabinet i egluro pa strategaeth sydd ganddo i sicrhau y gall cleifion deimlo'n hyderus wrth siarad yn eu hiaith gynhenid pan yn cael triniaeth neu gefnogaeth gan wasanaeth iechyd y maen nhw'n cyfrannu'n ariannol ati."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Mae darparwyr gofal cychwynnol - yn cynnwys meddygon teulu - yn gontractwyr annibynnol, hunangyflogedig, felly nid oes gofyn iddynt gydymffurfio â gofynion y Gymraeg y Bwrdd Iechyd.

Prosiect 'arloesol'

"Yn ôl ein Cynllun Iaith Gymraeg, ein rôl yw cynghori a chefnogi.

"Rydym yn gweithio'n hynod o galed i wneud hyn ac yn annog darpariaeth Gymraeg mewn meddygfeydd ar hyd a lled Gogledd Cymru.

"Er enghraifft, mae gennym bartneriaeth waith â chanolfan feddygol ym Mangor sy'n cynnwys cefnogaeth i gyfieithu gohebiaeth i gleifion, a phrosiect arloesol â Phrifysgol Bangor i greu labeli dwyieithog ar gyfer meddyginiaethau presgripsiwn.

"O ran bodloni gofynion y Gymraeg mewn gwasanaethau yr ydym yn gyfrifol am eu darparu, rydym yn gwneud cynnydd da iawn wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog i'n poblogaeth."

Dywedodd Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wastad wedi cymryd ei ddyletswyddau statudol o ran y Gymraeg o ddifrif.

Cydnabod diffyg cysondeb

"Fel sefydliad, rydym bob amser yn ceisio darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol yn iaith y defnyddiwr, er ein bod yn cydnabod diffyg cysondeb yn hyn o beth.

"Nid dyma'r sefyllfa yr ydym am fod ynddi.

"Mae Meddygfa Teifi, Llandysul yn esiampl wych o'r modd yr ydym wedi cefnogi contractwr gofal sylfaenol, a'r nod yw cyflwyno hyn ar draws Hywel Dda.

"Mae gan holl staff rheng flaen Meddygfa Teifi fathodynnau enw dwyieithog â logo Iaith Gwaith yn nodi'r siaradwyr Cymraeg, ac maent hefyd yn rhoi "cynnig rhagweithiol" i'r cleifion. "

"Rydym yn gweithio'n galed ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sbarduno newid mewn diwylliant ar draws ein safleoedd er mwyn sicrhau ein bod yn medru darparu gwasanaeth dwyieithog di-dor mewn modd cyson i'n poblogaeth yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein strategaeth, 'Mwy na geiriau', yn ceisio gwneud yn siŵr bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf. Wrth wraidd y strategaeth mae'r syniad y dylai'r gallu i ddefnyddio'ch iaith eich hun fod yn elfen graidd o'r gofal - nid yn rhywbeth ychwanegol.

"Mae'n bwysig symud y cyfrifoldeb fel bod darparwyr yn mynd ati'n weithredol i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn lle bod cleifion yn gorfod gofyn amdanynt. Rydym yn gweithio gyda darparwyr gofal sylfaenol i wneud yn siŵr bod y newid hwn yn digwydd a bod gwasanaethau Cymraeg yn parhau i fod ar gael i gleifion sydd eu hangen."