Gwobr actio i Catrin Stewart am y ffilm 'Y Llyfrgell'

Catrin Stewart Image copyright Warren Orchard
Image caption Catrin Stewart yn chwarae rhan dwy efaill yn ffilm 'Y Llyfrgell'

Mae Catrin Stewart wedi derbyn y wobr am y perfformiad gorau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin am ffilm Gymraeg a leolir yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae 'Y Llyfrgell' wedi ei seilio ar nofel Fflur Dafydd o'r un enw ac wedi ei chyfarwyddo gan Euros Lyn, ei ffilm hir gyntaf.

Yn y ffilm "thriller" hon mae Catrin, sy'n adnabyddus i lawer yn sgil ei pherfformiadau yn Doctor Who and Stella, yn chwarae'r efeilliaid Nan and Ana, sy'n awyddus i ddial ar lofrudd ei mam yn ystod un noson gythryblus yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth

Caiff y wobr ei rhoi am y perfformiad gorau mewn ffilm hir Brydeinig ac roedd y rheithgor eleni yn cynnwys y sêr rhyngwladol Kim Cattrall, Clancy Brown ac Icíar Bollaín.

Chwarae rhan 'heriol'

Roedd y tri yn teimlo fod perfformiad Catrin yn haeddu canmoliaeth uchel: "Roedden ni am gydnabod perfformiad gwych Catrin Stewart yn Y Llyfrgell. Mae'r cymhlethdod a'r cynildeb angenrheidiol i chwarae cymeriadau sydd yn efeilliaid yn heriol a llwyddodd i gyflawni hyn a chyflwyno'r ddwy rôl mewn modd unigryw."

Mae Catrin ar hyn o bryd yn rhan o gynhyrchiad y West End o waith George Orwell, 1984, ac roedd wrth ei bodd gyda'r newyddion,

Meddai: "Diolch Caeredin! Mae cael y wobr hon yn anrhydedd enfawr. Dyma fy ffilm hir gyntaf ac roedd yn her wych i gael chwarae dau gymeriad ochr yn ochr. "

Dyma'r tro cyntaf i berfformiad yn yr iaith Gymraeg gael ei wobrwyo ac mae'r awdur Fflur Dafydd yn credu fod hyn yn adlewyrchu'r hyder cynyddol yn y sector greadigol yma yng Nghymru,

"Wedi sgwennu'r llyfr yn wreiddiol ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol doedd dim amheuaeth mai Cymraeg fyddai'r ffilm hefyd.

"Mae llwyddiant Catrin yn profi y gall unrhyw waith creadigol, os yw o safon uchel, groesi ffiniau ieithyddol. Ar ran pawb sydd ynghlwm â'r gwaith hoffwn longyfarch Catrin ar ei gwobr - mae'n dalent prin ac yn llawn haeddu'r clod."

Caiff y ffilm ei dangos yn sinema'r Fenni ar nos Lun, 1 Awst ac fe fydd S4C yn ei darlledu rywdro yn y dyfodol.