Cymru v Gogledd Iwerddon: Y 'gêm fwyaf' i'r ddwy wlad

Wales manager Chris Coleman and Northern Ireland Michael O'Neill Image copyright Rex Features
Image caption Rheolwr Cymru Chris Coleman a Michael O'Neill rheolwr Gogledd Iwerddon yn mynd ben ben yn y Parc de Princes

Yn y gynhadledd newyddion arferol cyn bob gêm yng nghystadleuaeth Euro 2016 fe atebodd Chris Coleman bron cymaint o gwestiynau am ganlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd ag y gwnaeth am bêl-droed.

Mae'n feistr bellach ar osgoi cwestiynau anodd neu amherthnasol, ac fe wnaeth hynny'n gelfydd brynhawn Gwener fel arfer.

Ond roedd un ateb yn dweud y cyfan am y gêm fawr yn erbyn Gogledd Iwerddon brynhawn Sadwrn.

"Yr unig beth rwy'n gwybod yw ein bod ni'n dal yn Ewrop ac yn bwriadu aros yno."

Mae ganddo rhywfaint o le i fod yn hyderus. Cymru fydd yn dod allan o dwnnel Parc des Princes i swn byddarol 50,000 o dorf fel enillwyr eu grŵp.

Wrth edrych ar dablau ystadegau'r gystadleuaeth hyd yma o safbwynt meddiant, ergydion at y gôl, nifer o gyfleoedd a grewyd, mae Gogledd Iwerddon ar waelod bron bob un.

Ac eto dyma nhw yn yr 16 olaf, fel Cymru.

Perfformiad 'gorau erioed'

Fel rhan o'r un gynhadledd newyddion fe ddywedodd dirprwy reolwr Cymru Osian Roberts mai perfformiad Cymru yn y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Rwsia oedd yr orau iddo weld ers iddo fod yn rhan o dîm rheoli ei wlad. Mae hynny'n dipyn o ddweud.

Ac eto fydd y perfformiad yna'n cyfri am ddim byd brynhawn Sadwrn.

Fe wnaeth y ddau dîm gyfarfod ym mis Mawrth mewn gem gyfeillgar wrth i'r ddau baratoi am eu hantur Ewropeaidd. Daeth y gêm honno i ben yn gyfartal 1-1 a go brin y byddai'r ddau yn credu y bydden nhw'n wynebu ei gilydd eto ar y llwyfan mwyaf mor fuan.

Image caption Cefnogwyr Cymru yn cwrdd cyn y gêm fawr

Ac eto dyma nhw. Y gêm fwyaf i'r ddwy wlad ers degawdau.

Mae sawl un, gan gynnwys cyn ymosodwr Cymru Malcolm Allen, yn prysuro i bwysleisio rhai o'n enwau oedd ddim yn bresennol i Gymru i noson honno tra bod Gogledd Iwerddon wedi chwarae tim cryf iawn.

"Doedd Gareth Bale ddim yno, doedd Aaron Ramsey ddim yno a dim ond eilydd oedd Joe Allen," meddai.

'Trafferth creu cyfleuoedd'

"Mae Gogledd Iwerddon yn dîm trefnus iawn, ac mae'r timau sydd wedi eu herio hyd yma wedi cael trafferth creu cyfleoedd, ond dydyn nhw ddim wedi tri delio gyda Bale eto ac rwy'n credu mai dyna fydd y gwahaniaeth.

"Yn y gystadleuaeth hyd yma dydyn nhw ddim wedi ildio gol yn hanner cynta unrhyw gem, ond rwy'n credu y gall Cymru gael dwy yn yr hanner cyntaf ar y ffordd i ennill o 3-0."

Image copyright Getty Images
Image caption Gareth Bale a Kyle Lafferty o Ogledd Iwerddon, sgorwyr o fri

Doedd Chris Coleman ddim yn fodlon rhoi rhagolwg o sgor wrth gwrs, fyddai o byth yn gwneud hynny.

Ond roedd yn ddigon parod i ddweud bod Cymru yn barod i fynd benben a'u gwrthwynebwyr mewn gornest gorfforol. Wrth osgoi cwestiwn arall am y refferendwm, mynnodd Coleman:

"Dyw sylw'r garfan ddim ar hynny o gwbl ar hyn o bryd. Mae hynny'n rhywbeth i bawb drafod pan fyddwn ni'n dychwelyd adre."

Roedd pob ystym yng nghorff Coleman a'i gapten Ashley Williams yn awgrymu'n gryf nad yw'r un o'r ddau yn credu y bydd y daith honno'n digwydd yn y dyfodol agos.

Cymru: Hennessey, Chester, Ashley Williams, Davies, Gunter, Allen, Ledley, Ramsey, Taylor, Vokes, Bale.

Eilyddion: Fon Williams, King, Robson-Kanu, George Williams, Edwards, Richards, Cotterill, Collins, Jonathan Williams, Vaughan, Church, Ward.

Gogledd Iwerddon: McGovern, Hughes, McAuley, Cathcart, Jonny Evans, Ward, Davis, Corry Evans, Norwood, Dallas, Lafferty.

Eilyddion: Carroll, McLaughlin, Ferguson, Baird, McGinn, Grigg, Washington, McCullough, McNair, Magennis, Hodson, Mannus.