Morgannwg: Crasfa i Surrey

Image copyright Huw Evans
Image caption Dean Cosker yn dathlu cyrraedd ei garreg filltir o 100 wiced mewn gemau T20 i Forgannwg.

Curodd Morgannwg dîm criced Surrey o naw wiced yng nghystadleuaeth y T20 yn Stadiwm Swalec ddydd Gwener.

Cwblhaodd Morgannwg y dwbl dros Surrey yn argyhoeddiadol wrth iddyn nhw gyrraedd targed cymedrol o 111 gyda 4.1 pelawd i sbario .

Dean Cosker yw'r bowliwr cyntaf i Forgannwg i gyrraedd 100 o wiced yn y T20 ac fe wnaeth yr holl fowlwyr cartref gymryd wicedi, mewn perfformiad tyla gan Surrey.

Sgoriodd Colin Ingram a Jacques Rudolph y batwyr o Dde Affrica dros gant o rediadau i sicrhau buddigoliaeth i Forgannwg.

Cafodd Ingram fatiad solet wrth iddo sgorio 73 heb fod allan ar ôl 49 pêl.

Perfformiad arbennig arall gan y bowliwr cyflym Dale Steyne yn ei gêm olaf. Fe gymrodd 2-20 mewn pedwar pelawd.