Seland Newydd yn curo Cymru 46-6 yn y trydydd prawf

George Moala Image copyright Getty Images
Image caption George Moala yn sgorio cais yn erbyn Cymru yn Dunedin.

Mae pencampwyr y Byd, Seland Newydd wedi rhoi crasfa i Gymru gan ennill y trydydd prawf yn Dunedin o 46-6.

Mae'r Crysau Duon wedi ennill pob gêm yn y gyfres brawf yn erbyn Cymru.

Dywedodd capten Cymru, Sam Warburton: "Mae Seland Newydd wedi bod yn rhagorol ac yn haeddu buddugoliaeth yn y tair gêm brawf diwethaf.

"Roedd hi'n wael heddiw, yn yr hanner gyntaf roedden ni'n wael yn cwrso'r ciciau, doedd ein hamddiffyn ddim yn ddigon da, ry ni'n gwneud camgymeriadau sylfaenol ac allwch chi ddim cal get-away 'da na."

Mae Seland Newydd wedi curo Cymru 29 gwaith yn olynol mewn 63 mlynedd.

Image copyright Getty Images
Image caption Ail gais i Beauden Barrett yn y trydydd prawf yn erbyn Cymru

Yn yr hanner cyntaf sgoriodd yr asgellwr Ben Smith a George Moala, y canolwr, cyn i Beauden Barrett fynd drosodd am ei gais yntau.

Cafodd Barrett ei ail gais, gan olygu fod y maswr wedi sgorio cyfanswm o 26 o bwyntiau. Sgoriodd y bachwr Dane Coles a Israel Dagg gais yr un.

Dan Biggar gafodd y pwyntiau i Gymru gyda dwy gic gosb.

Y timau:

Seland Newydd: Israel Dagg; Ben Smith, George Moala, Ryan Crotty, Julian Savea; Beauden Barrett, Aaron Smith; Joe Moody, Dane Coles, Charlie Faumuina, Brodie Retallick, Sam Whitelock, Elliot Dixon, Sam Cane, Kieran Read (capt).

Eilyddion: Codie Taylor, Wyatt Crockett, Ofa Tu'ungafasi, Luke Romano, Liam Squire, Tawera Kerr-Barlow, Lima Sopoaga, Waisake Naholo.

Cymru: Rhys Patchell, Liam Williams, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Hallam Amos, Dan Biggar, Rhys Webb, Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Ross Moriarty, Sam Warburton (capt), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Samson Lee, Jake Ball, Ellis Jenkins, Gareth Davies, Rhys Priestland, Scott Williams.