Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon: Cyrraedd yr 8 olaf

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Uchafbwyntiau'r gêm lle cyrhaeddodd tîm pêl-droed Cymru wyth olaf Euro 2016

Mae Cymru wedi cyrraedd wyth olaf Euro 2016 ar ôl curo Gogledd Iwerddon o 1-0.

Roedd hi'n gêm glos gyda fawr o gyfleoedd i'r un tîm yn y Parc des Princes ym Mharis.

Daeth gôl Cymru yn yr ail hanner, croesiad gan Gareth Bale a Gareth McAuley yn rhoi'r bêl yn ei rwyd ei hun ar ôl 75 munud.

Fe fydd Cymru nawr yn chware yn Lille ddydd Gwener yn erbyn Gwlad Belg neu Hwngari.

Rhwystro meddiant

Roedd yr hanner cyntaf yn siomedig, gyda Gogledd Iwerddon yn llwyddo i rwystro meddiant i Gymru yng nghanol y cae.

Fe lwyddodd Cymru i gael y bêl yn y rhwyd ond roedd Aaron Ramsey yn camsefyll o beniad Vokes.

Image copyright Getty Images
Image caption Gareth McAuley roddodd y bêl i'w rwyd ei hun dan bwysau gan Hal Robson-Kanu
Image copyright PA
Image caption Daeth y gôl o groesiad Gareth Bale yn yr ail hanner
Image copyright Getty Images
Image caption Bydd cefnogwyr Cymru yn pryderu am Ashley Williams wnaeth anafu ei ysgwydd, ond fe wrthododd adael y cae

Fe wellodd perfformiad Cymru yn yr ail hanner gyda Jonny Williams yn eilydd yn lle Joe Ledley a Hal Robson-Kanu yn lle Vokes.

Roedd y ddau yn llawn rhedeg, gan roi pwysau ar amddiffyn Gogledd Iwerddon.

Ond o gamgymeriad ddaeth y gôl hollbwysig. Llwyddodd Bale i ddarganfod lle iddo'i hun ar yr asgell chwith a chroesi i ardal beryglus yn y cwrt cosbi, lle rwydodd Gareth McAuley i'w gôl ei hun.

Roedd son bod hyd at 50,000 wedi cyrraedd Paris ar gyfer y gêm.

Ar ôl y gêm, dywedodd Chris Coleman mai nid dyma berfformiad gorau Cymru yn y gystadleuaeth a bod Gogledd Iwerddon yn chwarae yn well na Chymru ar brydiau, ond fod ei dîm wedi dangos calon ac angerdd wrth chwarae.