Gwrthdrawiad Casnewydd: Dau wedi eu hanafu'n ddifrifol

RTC Image copyright @connleww

Mae dau berson wedi eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ddydd Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Heol Malpas, Casnewydd am 07:36.

Cafodd dau berson anafiadau difrifol ac maen nhw wedi eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd ac mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.

Image copyright @AEdwards30