Euro 2016: Rhybudd bod llety Lille yn 'brin a drud'

Lille Image copyright Google
Image caption Mae disgwyl iddi fod yn benwythnos prysur iawn yn Lille

Mae cefnogwyr sy'n bwriadu teithio i wylio Cymru yn rownd wyth olaf Euro 2016 wedi eu rhybuddio bod llety yn Lille yn "brin" ac yn "ddrud".

Mae gwestai eisoes yn brysur oherwydd bod y gêm ar ddydd Gwener 1 Gorffennaf, wrth i seremonïau i gofio Brwydr y Somme gael eu cynnal yn yr ardal.

Yn ôl Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru (FSF), mae pris rhai gwestai wedi codi i thua £325 y noson.

Gymaint yw'r diffyg ystafelloedd, mae un cwmni gwyliau'n defnyddio gwestai yng Ngwlad Belg ar gyfer cefnogwyr Cymru.

Image copyright Getty Images
Image caption Yn y Stade Pierre Mauroy yn Lille y bydd gêm nesaf Cymru

Dywedodd Wonky Sheep Events: "Mae Lille wedi bod yn heriol i'w drefnu, nid yn unig oherwydd y diffyg rhybudd, ond oherwydd y seremonïau cofio hefyd.

"Rydyn ni wedi gorfod edrych dros y ffin yng Ngwlad Belg ac hyd yn oed wedyn mae'n anodd."

Roedd Brwydr y Somme yn un o'r mwyaf gwaedlyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Image caption Mae nifer fawr o gefnogwyr wedi teithio i gefnogi Cymru yn Euro 2016 hyd yma

Dywedodd Paul Corkery, o FSF Cymru, bod y seremonïau yn Lille yn golygu bod gwestai yn brin iawn.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi mynd adref oherwydd gwaith, dwi'n meddwl y byddwn ni'n gweld lot o deithwyr sy'n dod am y dydd yn unig," meddai.

Bydd Cymru'n wynebu Gwlad Belg neu Hwngari yn y gêm nos Wener.

Fe gyrhaeddon nhw'r wyth olaf ar ôl curo Gogledd Iwerddon ym Mharis nos Sadwrn.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Cymru yn yr wyth olaf wedi buddugoliaeth dros Ogledd iwerddon