Cymru lân, Cymru lonydd?

cerdyn pledleisio

Gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna oedd penderfyniad mwyafrif pobl Cymru yn y refferendwm ar 23 Mehefin. Beth felly yw goblygiadau'r penderfyniad hanesyddol ar ein cenedl a'n gwleidyddiaeth?

Huw Edwards, Cyflwynydd BBC News at 10 a The Wales Report, sy'n cloriannu'r canlyniad ar ran Cymru Fyw:


'Cymru glwyfedig'

Hen ddisgrifiad cyfoglyd o Oes Fictoria yw 'Cymru lân, Cymru lonydd', sef ymgais i gynnig delwedd o Gymru 'waraidd', 'ddiniwed', 'anfygythiol' - Cymru sy'n gwybod ei lle yn y gyfundrefn Brydeinig, sef 'a pimple on England's arse' yn ôl un neges galonogol a dderbyniais gan wyliwr yn ddiweddar.

Wel, fy annwyl gydwladwyr, nid Cymru lonydd yw Cymru 2016, ond Cymru ranedig, Cymru ddig, a Chymru glwyfedig. Ond Cymru falch, hefyd, yn ôl Nathan Gill o UKIP, yn dilyn canlyniad y refferendwm Ewropeaidd.

Ble mae dechrau?

Fe bleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd o 52.5% i 47.5%, mwy o fwyafrif na'r hyn a gafwyd yng nghanlyniad cyflawn y Deyrnas Unedig, sef 51.9% i 48.1%. Cymru yw'r wlad sy'n elwa fwyaf yn ariannol o'n perthynas gyda'r UE, ac yn rhannol ar sail hynny fe ystyrid Cymru yn un o gonglfeini'r achos Ewropeaidd ym Mhrydain.

Anghofiwch yr hen ddelweddau hynny: mae'r byd wedi newid ac mae pobl Cymru wedi cyfrannu at y newid hwnnw, er gwell neu er gwaeth.

Image caption Mae 'na benderfyniadau allweddol bwysig i'w gwneud yn rhif 10

Ymgyrch ffiaidd

Fe fydd nifer ohonoch yn rhy ifanc i gofio ymgyrch refferendwm Cymru ym 1979. Na, nid 1997, ond 1979, sef y refferendwm a arweiniodd at gladdu'r syniad o ddatganoli am 20 mlynedd. Gadewch i mi rannu cyfrinach gyda chi. Rwyf yn hoff o ddweud wrth gydweithwyr a myfyrwyr ac eraill mai honno oedd yr ymgyrch fwyaf ffiaidd a chwrs i mi ei phrofi erioed. Fe ddibrisiwyd ac fe ddirmygwyd y syniad o roi awdurdod a chyfrifoldeb i Gymru a'i phobl, ac fe wnaed hynny yn ddyddiol yn ein papurau newydd ac ar ein rhaglenni newyddion. Dyna beth oedd profiad hunllefus.

Fe dorrwyd y record amheus honno eleni. Bu ymgyrch refferendwm 2016 hyd yn oed yn fwy ffiaidd nag un 1979, yn don anferth o sarhad a chamarwain. Nid pardduo pawb yw'r bwriad yma, credwch fi. Bu nifer o'n gwleidyddion a'n hymgyrchwyr (ar y ddwy ochr) yn gwneud eu gorau i gynnig ffeithiau mewn modd call a synhwyrol. Ond yn anffodus, diolch yn rhannol i rym cynyddol ein cyfryngau cymdeithasol, ac yn enwedig i ragfarn ymladdgar y wasg Lundeinig, nodweddwyd yr holl ymgyrch gan y croesi cleddyfau beunyddiol.

Ein gwaith (a'n dyletswydd ffurfiol) ni fel darlledwyr yw ceisio adrodd yn gytbwys, sef adrodd yr hyn sy'n digwydd (hyn yn oed os mai croesi cleddyfau hyd syrffed yw hynny) gan geisio ychwanegu ffeithiau sylfaenol a dadansoddi priodol. Nid yw'r canlyniad yn berffaith, gwn hynny yn rhy dda, ond da chi peidiwch â barnu'r 'wasg a'r cyfryngau' yn ddiwahân fel bydd nifer o Gymry Cymraeg yn gwneud ar Twitter a Facebook ac ati. Peth diog ac annheg yw gwneud hynny.

Image caption Safbwyntiau cymysg y wasg yn ystod yr 'ymgyrch ffyrnig'

Cymru ac Ewrop

Beth, felly, yw'r 'dadansoddi priodol' yng nghyswllt Cymru a Refferendwm 2016? Nid oes modd i mi ddatgan barn bersonol, yn rhinwedd fy swydd fel newyddiadurwr gyda'r BBC, ond efallai bydd ffrwyth profiad 30 mlynedd o ohebu a sylwebu ar wleidyddiaeth Cymru yn ddefnyddiol.

Fe'm syfrdanwyd gan y canlyniadau yn rhannau o Gymru, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, fy milltir sgwâr i, ac fe ddown ati yn y man. Nid oedd y gefnogaeth i 'Leave' ym Mlaenau Gwent (62%), Torfaen (60%), Wrecsam (59%), Caerffili (57%) a Merthyr (56%) yn syndod o gwbl o gofio am gryfder UKIP yn etholiadau 2015 a 2016. Ond fe gafwyd pleidlais 'Leave' mewn ardaloedd lle bu UKIP yn llawer llai poblogaidd, hefyd.

O ran cymoedd y de, gellir gofyn cwestiynau caled am fethiant Llafur Cymru i wella cyflwr economaidd yr ardaloedd dan sylw. Fe fyddant heb os yn honni mai toriadau Whitehall sydd wrth wraidd y broblem. Ond bu Llafur mewn grym yng Nghymru ers 1999, cyfnod Blair a'r gwario hael, a chyfnod arian Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

A chyn bod Llafur Cymru yn ymateb yn orsensitif (fel arfer) i unrhyw feirniadaeth, dyna yw barn Harriet Harman, un o ffigurau mwyaf dylanwadol y blaid. Cawsom sgwrs ar fore'r refferendwm. Ei barn bendant hi oedd bod Llafur wedi esgeuluso cymunedau yn yr hen ardaloedd glofaol, a bod y trigolion hynny wedi cael llond bol.

Image caption Buddugoliaeth i 'Vote Leave' ond beth fydd y goblygiadau i Gymru?

Nid oeddynt yn barod i wrando ar apeliadau o blaid Ewrop. Fe'u cyfareddwyd gan neges UKIP - sef cyfuniad pwerus o feio a chwyno - er eu bod yn byw mewn ardaloedd sydd wedi elwa yn sylweddol o arian Ewropeaidd. Dylai Llafur Cymru fod wedi dysgu gwersi amlwg yn yr ardaloedd hyn yn 2015.

Fe ddylai Plaid Cymru, hefyd, ofyn cwestiynau plaen ynghylch eu methiant hwy i gynnig atebion credadwy a deniadol yn yr ardaloedd yma. Wedi'r cyfan, mae ganddynt arweinydd sydd yn adnabod cymunedau'r cymoedd gystal â neb.

Ond beth am Sir Gâr, sef 'perfedd Cymru' yn ôl Gwynfor Evans, lle gwrthodwyd yr Undeb Ewropeaidd o 54% i 46%? Pa resymau a gafwyd i esbonio'r bleidlais honno?

Economi fregus

Dros y blynyddoedd gwelais ddwsinau o'r hysbysfyrddau glas cyfarwydd ar draws y sir yn cyhoeddi cyfraniad Ewrop i brosiectau amrywiol. Gwariwyd cannoedd o filiynau o arian Ewrop dros yr ugain mlynedd diwethaf: Parth Twf Cross Hands, Cronfa Datblygu Eiddo De-Orllewin Cymru, Llwybr Arfordir Cymru, Cynllun Datblygu Tref Llanelli, heb sôn am gynlluniau cyflogaeth a thrafnidiaeth, cyllid busnes a grantiau ffermwyr, ac felly ymlaen yn ddiderfyn.

Beth fydd yn digwydd nawr i'r holl gyllid hwnnw? Dywedodd y Ceidwadwr Andrew R T Davies wrthyf mewn cyfweliad yn gynharach eleni na fyddai Cymru yn colli dim arian pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. (Diddorol bod ei etholwyr ef ym Mro Morgannwg wedi gwrthod ei neges 'Leave'.)

Ar hyn o bryd, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Cymru yn derbyn £245m yn fwy na'i chyfraniad i Ewrop. Yn ôl David Davies, AS Ceidwadol Mynwy (lle gwrthodwyd ei neges 'Leave' yntau gan yr etholwyr) gallai Cymru gael mwy o arian ar ôl gadael. Cawn weld. Mae economi Prydain yn gymharol fregus a dim ond dyn dewr (iawn) fyddai'n gwneud addewidion ar hyn o bryd.

Image caption Mae sawl cynllun yng Nghymru wedi elwa o arian Ewropeaidd

Yn ôl un ffrind sy'n byw yng Nghydweli, nid oedd gwariant Ewropeaidd yn ffactor o gwbl ym mhenderfyniad pobl y sir i wrthod yr UE. Mewnfudo oedd y pwnc mawr, medde fe. Wel gadewch i ni graffu ar hynny. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, ganwyd tua 220,000 o drigolion Cymru y tu allan i'r Deyrnas Unedig, sef ychydig dros 7% o'r boblogaeth. (Daw 37% o boblogaeth Llundain o wledydd tramor, gyda llaw.) Daw'r garfan fwyaf yng Nghymru o Wlad Pwyl (tua 17,000), ac yna'r Almaen (tua 11,000), India (tua 10,000), Iwerddon (tua 9,000) a Bangladesh (tua 7,000).

Dyweder hyn yn blaen: nid yw'r ffigurau yma yn rhai uchel o gwbl yn y cyd-destun Prydeinig. Ac yn ôl y Swyddfa Ystadegau (ONS), tua 1,000 o fewnfudwyr sydd yn byw ym Mlaenau Gwent, nifer gyda'r isaf ym Mhrydain. Nid yw Merthyr, Torfaen a Chaerffili yn ddeniadol i fewnfudwyr, chwaith, yn ôl yr ystadegau swyddogol. Ac eto dyma'r union ardaloedd lle bu neges UKIP mor ysgubol o effeithiol. Fe lunir sawl traethawd ymchwil ar y ffenomen hon yn y degawdau i ddod.

Soniodd un brawd ar Twitter am fodolaeth 'gymaint o Saeson' yng Nghymru, gan awgrymu y dylid beio nhw am y bleidlais 'Leave'. Mae'n wir bod tua 20% o drigolion Cymru wedi eu geni yn Lloegr, a bod demograffeg Cymru wedi newid yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf, er nad oes yr un blaid wleidyddol (gan gynnwys Plaid Cymru) yn awyddus i drafod effeithiau hynny, yn enwedig o ran iaith a diwylliant.

Mae'r newid poblogaeth yn sicr wedi effeithio ar batrymau etholiadol, ond gallwn anghofio hynny fel ffactor yn y refferendwm: Cymry o'u genedigaeth yw trwch mawr poblogaeth Blaenau Gwent a Merthyr a Thorfaen ac ardaloedd cyffelyb.

Bu ymgyrch 'Leave' yn nodedig o lwyddiannus ac effeithiol, ac mae'n rhaid dweud bod ymgyrch 'Remain' yng Nghymru wedi bod yn llawer llai egnïol a chyson. Gwyddom eisioes am agwedd lugoer Jeremy Corbyn (bu'n feirniadol iawn o'r UE yn ystod ei yrfa) ac mae'n bwysig nodi bod nifer o gefnogwyr Llafur (yn ôl sawl arolwg) wedi bod yn holi ar ba ochr yr oedd eu plaid. Diddorol, hefyd, oedd nodi sensitifrwydd Leanne Wood pan awgrymwyd (yn ystod dadl BBC Cymru) nad oedd hi a'i phlaid wedi tynnu eu pwysau yn ystod yr ymgyrch.

Methiant pur fu ymgyrch 'Remain' yng Nghymru - a methiant yr arweinwyr gwleidyddol yn bennaf oedd hwnnw. Pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'r Alban yn hawlio annibyniaeth, beth yn union fydd sefyllfa Cymru? Bydd angen arweinwyr gwleidyddol o'r radd flaenaf i lywio'r wlad yn hyderus a chall.

Neu fel arall, bod yn 'pimple on England's arse' fydd yr unig opsiwn.

Image caption Beth fydd perthynas Cymru gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl y refferendwm?