Dysgu gwersi iaith

Ysgol Fusnes Duesto
Image caption Ysgol Fusnes Duesto, Bilbao

Mae gan Wlad y Basg un o'r systemau addysg mwyaf llwyddiannus yn Ewrop.

Mae gan bron i 49% o'r boblogaeth rhwng 30 a 34 oed radd brifysgol sydd yn uwch na'r cyfartaledd Ewropeaidd o 38%.

Mae Llywodraeth y wlad (sydd â lefel uchel o annibyniaeth o lywodraeth Sbaen) yn buddsoddi'n ariannol mewn addysg ond, yn ôl arbenigwyr, mae hunaniaeth ieithyddol yn sicrhau fod y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth.

Guillermo Dorronsoro yw Deon Ysgol Fusnes Deusto yn Bilbao. Bu'n esbonio wrth Cymru Fyw sut mae'r Fasgeg wedi rhoi hwb i'r gyfundrefn addysg:


Pwrpas cymdeithasol

Mae addysg yn fuddsoddiad tymor hir... yn ariannol a chymdeithasol, ac os nad ydych chi fel disgybl yn teimlo rhyw hunaniaeth, yna mae'n llai tebygol eich bod chi'n gwneud ymdrech tymor hir yn eich addysg.

Mae hunaniaeth yn meithrin teimlad o bwrpas cymdeithasol ac ymrwymiad cymunedol sydd yn cynnig ffocws i'ch addysg.

Felly, cyn i'r Llywodraeth benderfynu ar y polisi yma, roedd yn rhaid sicrhau dau beth. Buddsoddiad ariannol a meddyliol i bwysigrwydd addysg, ond yn ogystal roedd yn rhaid sicrhau cefnogaeth ac ymrwymiad y cyhoedd a'r gymuned.

Image caption Guillermo Dorronsoro

Llwyddiant yn magu llwyddiant

Y ffocws i ni oedd adfywio'r iaith Fasgeg ac mae llwyddiant y system addysg yn gyffredinol yn cael ei adlewyrchu yn ein llwyddiant yn adfywio'r iaith. Roedd canolbwyntio ar yr iaith hefyd yn rhoi ffocws i'r cyhoedd ar addysg, ac yn tanlinellu pwysigrwydd addysg mewn cyd-destun ehangach.

Dros dri degawd mae cynnydd sylweddol iawn wedi bod yn nifer y boblogaeth sydd yn medru siarad Basgeg. Yn 1981, tua cychwyn y broses, 21.9% o'r boblogaeth oedd yn medru'r iaith, i'w gymharu â 36.4% yn 2011 - cynnydd o 14.5%.

I greu'r cynnydd, roedd angen athrawon. Ym mlwyddyn ysgol 1976-77, dim ond 4.7% o athrawon meithrin a chynradd y wlad oedd yn medru'r Fasgeg. Erbyn 1995-96, roedd 67% yn medru nid yn unig siarad yr iaith, ond dysgu'r iaith fel pwnc, neu eu pwnc arbenigol nhw, drwy'r Fasgeg.

Image caption "Rwy'n hoffi Basgeg!" yw neges y person ifanc yn y poster

Er mwyn i'r cynllun lwyddo'n gyflym cafodd y pwyslais ei roi ar ddysgu trwy gyfrwng yr iaith, a rhoi'r adnoddau angenrheidiol i hyfforddi'r staff angenrheidiol i gyflawni'r nod.

I'r perwyl hwn, cafodd cynllun IRALE ei sefydlu, oedd nid yn unig yn cynnig cyrsiau dysgu Basgeg i staff allweddol ond, yr un mor bwysig, yn digolledu ysgolion am y gost o ryddhau athrawon i fynd ar gyrsiau i ddysgu, neu loywi eu Basgeg.

Datblygu'r gweithlu

Mae hyn wrth gwrs yn allweddol ac yn amlwg ar yr un pryd. Os ydych chi'n dechrau ar bolisi i adfywio iaith brin, mae'n rhaid buddsoddi i greu'r gweithlu i fedru cyflawni hyn. Mae'r polisi yma'n wir ym maes addysg ac ym mhob maes arall mewn gwirionedd.

Law yn llaw â hyn roedd grantiau ar gael i gynhyrchu nwyddau addysgu drwy gyfrwng y Fasgeg gyda'r pwyslais ar safon a chywirdeb ac mae'r grantiau hyn nawr wedi datblygu i gynnwys nwyddau sain a fideo ac, yn ddiweddar, meddalwedd addysgiadol i gyfrifiaduron, gan gynnwys apiau.

Mae cefnogaeth ac anogaeth rhieni hefyd yn allweddol. Mae gan rieni'r dewis i'w plant gael eu haddysgu yn gyfan gwbl drwy'r Fasgeg (Model D), neu hanner Basgeg, hanner Sbaeneg (Model B).

Eleni, yn yr adran feithrin a blynyddoedd cynnar, mae 73% o blant Gwlad y Basg yn dysgu drwy'r Fasgeg yn unig gyda 23% yn dilyn y model hanner a hanner.

Yn ein hysgolion mae 60% yn dewis Model D gyda 22% yn dewis Model B. Felly mae dros 80% o blant y wlad yn derbyn canran sylweddol o'u haddysg drwy'r Fasgeg.

Image caption Mae'r cerflun hwn tu allan i swyddfa'r papur newydd Basgeg 'Berria' yn cyfleu cefndir diwydiannol Gwlad y Basg - cefndir sydd hefyd yn rhannol gyfrifol am lwyddiant eu system addysg yn ôl rai

Lledaenu'r iaith

Mae llwyddiant y system addysg yn amlwg, ond o ran yr iaith, nawr mae'r gwaith anodd yn dechrau, sef annog defnydd o'r iaith yn y teulu ac yn gymunedol.

Mae'r nifer sydd yn defnyddio'r iaith o fewn y teulu dal yn gymharol isel (gan fod nifer o rieni ddim wedi cael y cyfle i dderbyn eu haddysg drwy'r Fasgeg).

Mae'r broblem hon wrth reswm yn lleihau gydag amser, ond mae'n rhaid cadw ffocws ar ddysgu Basgeg i oedolion er mwyn hwyluso hyn ymhellach.

Mae hefyd angen canolbwyntio ar annog defnydd o'r iaith yn gymunedol a gweithredu polisïau sy'n annog sefydliadau a chwmnïau i hwyluso hyn hefyd.

Does dim amheuaeth felly fod y system addysg wedi bod yn allweddol yn y broses o adfywio'r iaith Fasgeg. Efallai byddai ymroddiad ac ewyllys da wedi mynd rhywfaint tuag at achub yr iaith. Ond, pan mae tua 35% o ieithoedd y byd yn colli siaradwyr neu mewn perygl o ddiflannu, i greu newid sylweddol mae angen yr ymroddiad, oes, ond mae angen i'r system addysg fod yn gefnogol hefyd.

Mae'r ffaith fod yr ymroddiad hwn hefyd yn creu buddion addysgiadol pellach, yn fonws.

Straeon perthnasol