Gyrrwr fan wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Y Rhyl

Heol Hardy Image copyright Google

Mae gyrrwr fan wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych ddydd Sul.

Roedd y dyn yn gyrru fan Ford Transit yn Y Rhyl pan fu mewn gwrthdrawiad ar Heol Hardy ychydig cyn 09:00.

Cafodd y gyrrwr ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ble bu farw'n hwyrach.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.