Galw am fwy o sicrwydd ariannol ar gyfer y celfyddydau

John Ramm fel Benedick a Lisa Palfrey fel Beatrice Image copyright JOHAN PERSSON/THEATR CLWYD
Image caption John Ramm fel Benedick a Lisa Palfrey fel Beatrice

Mae pennaeth newydd Theatr Clwyd wedi galw am fwy o sicrwydd ariannol ar gyfer y celfyddydau.

Dywedodd Tamara Harvey mai dim ond blwyddyn o gyllideb ar y tro roedd y theatr yn derbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae hi newydd gyfarwyddo ei chynhyrchiad cyntaf yn Theatr Clwyd ar ôl treulio llawer o'i gyrfa yn Lloegr, lle dywedodd bod sefydliadau tebyg yn derbyn tair blynedd o rybudd am newidiadau i'w cyllidebau.

Dwedodd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) bod cynllunio cyllid hirdymor i'r sector dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru.

Derbyniodd Theatr Clwyd ychydig dros £1.57m oddi wrth CCC ar gyfer 2015/16, yn o gystal â £225,700 ar gyfer ei gwaith ieuenctid.

Cwtogi grantiau

Roedd y ddau grant wedi'u cwtogi o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Ms Harvey ei fod yn angenrheidiol i sefydliadau Cymreig dderbyn fwy o rybudd am eu cyllidebau.

"Mae'n wirioneddol anodd oherwydd ein bod ni ond yn cael gwybod am ein cyllideb yn flynyddol. Pe gallem ofyn am unrhyw beth, byddwn yn gofyn am sicrwydd ariannol hirdymor."

"Yn Lloegr byddwch yn derbyn cytundeb ariannu tair blynedd, ac mae hynny'n eich galluogi i gynllunio'n well. Fe fyddai hynny yn anrheg arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru os oedd yn bosib i'w gyflwyno yma hefyd."

"Mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynhyrchu gwaith newydd, ac un o'r ffyrdd y gallwn wneud hynny yw trwy wybod o leiaf am dair blynedd, fod gennym yr arian i gynllunio."

Dywedodd Nick Capaldi, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae llawer o sefydliadau celfyddydol, megis Theatr Clwyd, yn cynllunio nifer o flynyddoedd o flaen llaw er mwyn gallu denu'r cyfarwyddwyr a'r actorion gorau.

"Byddai cyllid tair blynedd yn amlwg o gymorth, ac rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu cyllid tair blynedd i Gyngor y Celfyddydau. Mae hyn dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd."

Image caption Tamara Harvey

Mae Tamara Harvey yn cyfarwyddo ei sioe gyntaf yn Theatr Clwyd, sef y comedi Much Ado About Nothing gan Shakespeare.

Mae wedi'i gosod yn y 1960au ym Mhortmeirion, ac mae hi'n dweud bod y lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer y stori am gymuned fechan - gyda thro Eidalaidd.

Yr actores Lisa Palfrey sy'n chwarae rhan Beatrice, ac sy'n hyderus am y busnes theatr yng Nghymru ar ôl dod o Lundain i berfformio yn Yr Wyddgrug.

"Dwi'n teimlo'n ffyddiog iawn ynglŷn â theatr yng Nghymru. Mae gymaint o bobl sy'n sgwennu am y tro cyntaf yn dod trwy'r ranks, mae cymaint o theatrau bach, cwmnïau bach, wedi eu sefydlu.

"Mae fy merch Lowri yn y cynhyrchiad yma hefyd ac mae hi yn ei hugeiniau, a dwi'n meddwl bod e'n lle llawer mwy cyffrous iddyn nhw nag oedd e pan oeddwn i yn ei hoedran hi."

'Sefyllfa iach'

Mae 'na glod i'r diwydiant hefyd gan Tim Baker, sy'n gadael Theatr Clwyd wedi 20 mlynedd fel cyfarwyddwr ac aelod o'r tîm rheoli.

Dros y misoedd nesaf fe fydd Baker yn teithio'r byd i astudio theatrau mewn gwledydd ble mae un diwylliant mawr yn dueddol o gysgodi diwylliannau bach, a hynny'n dilyn ei brofiad o gyfarwyddo theatr yn Gymraeg.

Y dechnoleg sydd yn galluogi'r diwydiant i ffynnu, yn ôl ei brofiad diweddar o ap Sibrwd y Theatr Genedlaethol.

"Dwi di cael blynyddoedd o bobl yn dweud, 'Oh, I don't understand Welsh but I could tell what was going on.' Mae rhywun eisiau dweud, 'No, you did not.'

"Hynny yw, da chi'n bychanu'r iaith trwy ddweud pethau fel 'na. Wel, efo rhywbeth fel Sibrwd fedrwch chi ddim neud hynna bellach, mae yna ac mae reit ar ffin y dechnoleg, all e mond bod yn beth da i fi."

Ac er yr ansicrwydd ariannol, mae Tim Baker eto yn hyderus.

"Does 'na byth digon o arian. Does 'na ddim digon o arian rŵan, doedd na ddim digon o arian ddoe, bydd na ddim digon o arian yfory. Ond i fi mae'r sefyllfa yn ddigon iachus, dwi'n meddwl."