Marwolaeth milwr Aberhonddu: Dau ddyn yn y llys

Y Preifat Matthew Boyd Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw'r Preifat Matthew Boyd yn dilyn ymosodiad yn Aberhonddu

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys, un wedi ei gyhuddo o lofruddio, a'r llall wedi ei gyhuddo o ddynladdiad milwr ym Mhowys.

Bu farw'r Preifat Matthew Boyd yn dilyn ymosodiad yn nhref Aberhonddu.

Fe wadodd Jake Vallely, 23 oed, lofruddio'r milwr, ac fe wadodd Aaeron Evans, 22 oed, ddynladdiad mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa, a byddan nhw'n ymddangos ger bron y llys ar 30 Medi.

Mae disgwyl i achos ddechrau ym mis Tachwedd.

Roedd y milwr a'i deulu'n byw yn Gibraltar, ond roedd yn dod yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon.

Cafodd Matthew Boyd ei ddarganfod yn anymwybodol ac wedi ei anafu ar Stryd Lion.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty gan ambiwlans ond bu farw'n ddiweddarach.