Uchel Lys: Cyngor Abertawe a Gwynedd ddim yn 'wrth-Semitaidd'

cynghorau Abertawe a Gwynedd Image copyright Jaggery/Geograph

Mae'r Uchel Lys wedi gwrthod her gan fudiad hawliau Iddewig yn erbyn dau o gynghorau Cymru.

Roedd y Jewish Human Rights Watch, mudiad sy'n gwrthwynebu agweddau maen nhw'n eu hystyried i fod yn wrth-Semitaidd, yn honni fod cyngor Gwynedd a chyngor Dinas Abertawe wedi cymeradwyo cynigion hiliol.

Roedd y mudiad wedi ennill yr hawl i wrandawiad barnwrol a'u bod yn herio 'boicotiau' y cynghorau lleol ar nwyddau o Israel. Roedd y ddau gyngor yn gwadu'r honiadau.

Ond ddydd Mawrth fe wrthododd yr Arglwydd Ustus Simon and Mr Ustus Flaux yr honiadau yn erbyn cynghorau Abertawe, Gwynedd yn ogystal â chyngor Dinas Caerlyr yn Lloegr.

Fe ddwedon nhw eu bod wedi penderfynu hyn yn dilyn archwiliad o'r ffeithiau, ac ar sail egwyddorion cyfreithiol perthnasol.

Mae'r mudiad wedi dweud eu bod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.

Yn 2010, roedd cyngor Abertawe yn ceisio cymryd rhan mewn contractau gyda Veolia, cwmni a oedd hefyd yn rhan o gonsortiwm a oedd am adeiladu system rheilffordd yn cysylltu Israel ag aneddiadau yn Nwyrain Jerwsalem.

Roedd y cynnig gerbron y cyngor yn dweud bod y prosiect "nid yn unig yn groes i ofynion y Cenhedloedd Unedig, ond hefyd yn groes i gyfraith ryngwladol".

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo ym mis Mehefin 2010, ond nid oedd yn rhwymol.

Yn 2014, pasiodd Cyngor Gwynedd gynnig oedd yn galw am embargo masnach gydag Israel, yn condemnio yr "ymosodiadau gan wladwriaeth Israel ar diriogaeth y Palestiniaid yn byw yn y Llain Gaza".

Roedd hefyd yn dweud: "Rhaid ei gwneud yn glir bod y cynnig yn condemnio gwladwriaeth Israel ac nid y grefydd Iddewig."