'Mae Lille yn lle gwahanol heb yr heddlu'

Lille
Image caption Ardal y cefnogwyr yn Lille.

Mae'n rhyfedd, ac eto ddim yn syndod, bod pobl yn gallu newid lle.

Rhaid cyfadde' bod dychwelyd i Lille ddim yn rhywbeth yr oedd sawl un sydd wedi dilyn Cymru yn Ffrainc yn awyddus i'w wneud, gan fod yr ymweliad cyntaf yn gysylltiedig gyda'r teimlad bod trafferth ar y ffordd.

Wrth gyrraedd yn ôl i'r ddinas, mae'n lle gwahanol heb ddwsinau o heddlu arfog ar bob stryd, ac mae canol y ddinas yn llawn adeiladau hardd.

Image copyright Google
Image caption Canol Lille.
Image copyright Getty Images
Image caption Roedd presenoldeb heddlu yn amlwg adeg gêm Cymru yn erbyn Lloegr.

Y broblem i Gymru yw bod y ffin gyda Gwlad Belg bum milltir i ffwrdd.

Yn ôl un o chwaraewyr y Belgiaid, Kevin De Bruyne, mae hynny'n golygu eu bod nhw'n ystyried y gêm bron fel gêm gartref.

"Fedra i ddim disgwyl am y gêm...ry'n ni'n disgwyl llawer iawn o'n cefnogwyr ni yno ac yn gobeithio y gallwn ni fynd yr holl ffordd i'r ffeinal," meddai.

Mae Cymru yn dal i ddathlu ar ôl curo Gogledd Iwerddon ddydd Sadwrn, ond mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth, roedd rhaid i ddau chwaraewr egluro fideo oedd yn dangos y tim yn dathlu rhywbeth arall, sef ymadawiad Lloegr o'r gystadleuaeth yn erbyn Gwlad yr Ia.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Carfan Cymru'n dathlu canlyniad y gêm rhwng Gwlad yr Iâ a Lloegr

Dywedodd Chris Gunter: "Doedd e ddim i fod i ymddangos fel rhywbeth gormodol."

Yn ol Neil Taylor: "Roedden ni'n falch dros yr 'underdog'. Hefyd, wrth gwrs, roedden ni'n dathlu dros Gylfi (Sigurdsson - cyd-chwaraewr Taylor ac Ashley Williams yn Abertawe)."

Datgelodd y ddau hefyd bod rhai o chwaraewyr Cymru wedi aberthu er mwyn bod yn rownd yr wyth olaf - rhai yn fwy na'i gilydd.

Image caption Neil Taylor a Chris Gunter yn y gynhadledd newyddion ddydd Mawrth.

Dywedodd Taylor ei fod e a'i wraig wedi methu defnyddio tocynnau i weld cyngerdd y gantores Beyonce, ond bydd Chris Gunter yn absennol o briodas ei frawd Mark os fydd Cymru'n cyrraedd y rownd gynderfynol!

Efallai mai Gwlad Belg fydd y ffefrynnau ddydd Gwener yn Lille, ond bydd eu cefnwr Thomas Vermaelen yn absennol wedi iddo weld ail gerdyn melyn yn erbyn Hwngari, a doedd eu seren Eden Hazard ddim yn ymarfer gyda'r garfan ddydd Mawrth.

Image caption Eden Hazard sgoriodd trydedd gôl Gwlad Belg yn y fuddugoliaeth yn erbyn Hwngari.

Er bod disgwyl iddo fod yn holliach i wynebu Cymru, mae rheolwr Gwlad Belg, Marc Wilmots, wedi dweud na fydd yn ymarfer tan ddydd Iau.

Does dim amheuaeth bod disgwyl i'r Belgiaid ennill, ac mae hynny'n siwtio Chris Coleman a Chymru.

"Doedden ni ddim ar ein gorau fel ffefrynnau yn erbyn Gogledd Iwerddon - ry'n ni'n gweithio yn well fel arall ac mae gan Belg garfan o safon."

Ond fel y dywedodd un arall o chwaraewyr Gwlad Belg, Yannick Carrasco, "mae bob gêm yn wahanol".

"Yn erbyn Cymru rhaid i ni chwarae cystal a'r noson o'r blaen (wrth guro Hwngari o 4-0). Dydyn nhw ddim yn mynd i roi llawer o le i ni....ac wrth gwrs mae ganddyn nhw Bale."

Oes yn wir.