Comisiynydd yn galw am GIG dwyieithog mewn degawd

Therapi Siarad yn y Gymraeg

Fe ddylai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru anelu at fod yn wasanaeth dwyieithog o fewn deng mlynedd, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Ond mae Meri Huws hefyd wedi dweud wrth raglen Newyddion9 fod angen "gweithredu pendant" gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd i gynyddu nifer y staff sy'n medru'r Gymraeg.

Mae'n disgrifio gwasanaethau gofal presennol yn yr iaith yn "dameidiog ac anghyson".

Mae ymchwil Newyddion9 yn dangos fod prinder mawr ledled Cymru yn nifer y staff, er enghraifft, sy'n gallu cynnig therapi siarad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe ofynnodd y rhaglen i holl fyrddau iechyd Cymru nodi faint o'i therapyddion oedd yn medru darparu therapi siarad yn y Gymraeg.

Ym mhob bwrdd iechyd oni bai am yn y gogledd llai na 5% allai wneud hynny.

Os nad oes digon o therapyddion yn siarad iaith i ateb y galw - cleifion, yn enwedig cleifion bregus, sydd ar eu colled, yn ôl Dr Elin Ellis, ymgynghorydd mewn Seiciatreg yn Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglyn Ebwy.

"Mae'n beth sylfaenol mewn gofal iechyd bod y cyfathrebu yn cael ei hwyluso drwy siarad, fel rheol, yn iaith gynta'r claf, yn enwedig pan y chi'n ystyried iechyd meddwl fod pobol yn sôn am eu teimladau neu brofiadau personol iawn, iawn.

"Ychydig iawn ohonon ni sy'n seiciatryddion sy'n siarad Cymraeg - mae na fylchau enfawr trwy Gymru."

Image caption Cafodd Huw Jones drafferth cael gofal iechyd meddwl yn ei famiaith

Un sydd wedi cael trafferth dod o hyd i therapydd sy'n siarad Cymraeg yw Huw Jones.

Ar ôl gweithio ym Mhalas Buckingham yn Llundain, fel cogydd i'r Frenhines, fe ddychwelodd Huw yn ôl i Gymru er mwyn cael triniaeth a gofal iechyd meddwl yn ei famiaith.

"Dwi wedi cael therapi siarad efo Saesnes, ac i fi, wnaeth o ddim gweithio ... mi ofynnais am therapist arall.

"Mae therapi yn y Gymraeg yn well i fi efo stryglo ac iechyd meddwl dwi'n fwy cyfforddus yn siarad efo rhywun Cymraeg. Mae'n haws i fi ac yn bwysig i fi.

"Ac dwi methu deall pam fo Cymro yn cael trafferth cael triniaeth yn y Gymraeg."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Huw Jones yn credu bod gwasanaeth therapi siarad drwy'r Gymraeg yn bwysig.
Image caption Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud ei bod hi'n clywed straeon tebyg yn aml.

Dywedodd Meri Huws: "Mae gwasanaethau yn y Gymraeg yn dameidiog ac anghyson....ond dyw'r adnoddau ddim yn ddigon.

"Un o'r pethau sy'n torri nghalon i yw gweld pobl ifanc a phroblemau iechyd meddwl yn cysylltu ac yn dweud eu bod nhw wedi cael cam oherwydd dy'n nhw ddim yn cael y gwasanaeth drwy'r iaith ma nhw ei angen e.

"Dyna'r math o achosion sy'n dod trwyddo - ni 'di symud o'r sefyllfa lle oedden ni'n edrych ar ddementia a strôc a meddwl dyna'r unig achosion oedd yn codi. Mae'n codi ar draws y boblogaeth, pob oedran."

Eto i gyd, mae ystadegau'r cyfrifiad yn 2011 yn awgrymu fod mwy o weithwyr iechyd yn siarad Cymraeg, mewn gofal sylfaenol, nag efallai fyddai rhywun yn ei ddisgwyl, gyda 13.4% o feddygon, 16.7% o nyrsys 14.3% o ddeintyddion a bron i 24% (23.9%) o fferyllwyr yn nodi eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg.

Un gwyn yw nad yw'r gwasanaeth iechyd wedi gwneud digon, hyd yma, i adnabod a chydlynu'r staff hynny er mwyn cryfhau gwasanaethau.

Ond yn ôl y Comisiynydd y Gymraeg fe ddylai Llywodraeth Cymru, a phrifysgolion a'r byrddau iechyd wneud mwy ac, o bosib, osod cwotâu ar sail iaith, er mwyn sicrhau bod mwy o weithwyr iechyd sy'n siarad Cymraeg yn cael eu hyfforddi.

"Dwi'n credu bod cyfrifoldeb ar ein prifysgolion ni a'r colegau sy'n hyfforddi i sicrhau bod pobl ifanc yn cynnal sgiliau iaith," meddai.

"Ni di cael degawdau o addysg Gymraeg yng Nghymru. Mi ddylen ni fod nawr yn gallu llenwi swyddi gyda phobl sy'n abl i weithio, fel therapyddion, pobl yn gweithio ar y derbynfeydd mewn meddygfeydd.

"Mi ddylen ni fod yn rhagweld gwasanaeth iechyd hollol ddwyieithog mewn 10 mlynedd - dyna'r uchelgais a'r her."

Ac yn ôl Rhiannon Davies sy'n swyddog iaith ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, mae gan y byrddau iechyd hefyd ddyletswydd fel cyflogwyr: "Fi'n credu'r peth pwysica yw bo ni'n cydnabod bod dim digon o staff gyda ni sy'n siarad Cymraeg - felly mae'n rhaid i ni hysbysebu swyddi sy'n Gymraeg - hanfodol.

"Nes bo ni'n taclo'r broblem na does byth digon o staff sy'n siarad Cymraeg yn mynd i fod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod ein strategaeth, Mwy Na Geiriau, yw sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf.

"Y syniad yw y dylai medru defnyddio eich iaith eich hun fod yn elfen sylfaenol o'r gofal - ac nid yn rhywbeth ychwanegol, dewisol. Un o amcanion Mwy Na Geiriau yw gweld GIG Cymru'n datblygu strategaeth effeithiol i recriwtio a chadw staff er mwyn sicrhau bod ganddynt y gallu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg."