Dros 100 o swyddi dan fygythiad mewn ffatri yn Y Barri

dow Image copyright Google

Mae tua 115 o swyddi dan fygythiad mewn ffatri gemegau ym Mro Morgannwg.

Mae gweithwyr yn ffatri Dow Corning yn y Barri wedi clywed am yr effaith posib y safle.

Mae tua 630 o bobl yn gweithio yn y ffatri a bydd cyfnod o ymgynghori am 45 diwrnod yn dechrau'n fuan.

Yn ôl y cwmni does dim cysylltiad rhwng canlyniad pleidlais 'Brexit' a'r newyddion diweddaraf.

Mae cwmni Dow Chemical wedi cyhoeddi y bydden nhw'n cael gwared ar tua 2,500 o swyddi dros y byd, sef tua 4% o'r gweithlu.

Ail-strwytho

Bydd Dow yn uno â DuPont yn dilyn cyhoeddiad wnaeth y ddau gwmni amaeth a chemegol ym mis Rhagfyr.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Dow Chemical nad yw'r diswyddiadau yn y Barri o ganlyniad i'r uno ond yn hytrach yn ganlyniad ail-strwytho ei berchnogaeth o Dow Corning.

Fe ddechreuodd y gwaith o gynhyrchu silicôn ar y safle yn y Barri yn 1952, gan gwmni o'r enw Midland Silicones.

Mae gwefan Dow Corning yn ei ddisgrifio fel un o'r cyfleusterau sy'n "bell ar y blaen" i weddill o'i fath yn y byd.