'Nabod Gwlad Belg

Grand Place
Image caption Y Grand Place yng nghanol dinas Brwsel

Mae tîm pêl-droed Cymru yn chwarae eu gêm bwysicaf ers 1958 yn Lille ddydd Gwener pan fydden nhw'n wynebu Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Euro 2016.

Ond faint ydych chi'n ei wybod am Wlad Belg? Cymru Fyw sy'n rhannu ambell ffaith am ein gwrthwynebwyr:


Maint a phoblogaeth

Mae Gwlad Belg yn 30,528 km² (11,787m²) o diriogaeth, o'i gymharu gyda Chymru sy'n 20,779 km² (8,022m²) mewn maint.

Ond mae poblogaeth y Belgiaid dipyn mwy na Chymru - 11,250,585 o'i gymharu â'r 3,168,000 sydd gan Gymru. Mae 'na amcangyfrif bod 358,400 yn byw yng Nghaerdydd yn 2016, gyda 1,187,890 yn byw ym mhrif ddinas Gwlad Belg, Brwsel.

'Dwy wlad' mewn un

Mae Gwlad Belg wedi ei rhannu yn ddau ranbarth, gyda rhanbarth Fflandrys yn rhan ogleddol y wlad a Walonia yn y de.

Yn Fflandrys y iaith Fflemeg sy'n cael ei defnyddio rhan amlaf, sydd yn darddiad o'r iaith Iseldireg. Yn Walonia, Ffrangeg yw'r brif iaith. Mae dwywaith gymaint o bobl yn byw yn Fflandrys nag sy'n byw yn Walonia.

Er bod Brwsel yn disgyn o fewn ffiniau Fflandrys, Ffrangeg yw iaith y ddinas.

Image caption Fflandrys yn y melyn, Walonia yn y coch yn y de, a rhanbarth y prif ddinas, Brwsel yn y canol

Bwyd y Belgiaid

Mae Gwlad Belg yn enwog am ei siocled safonol, gyda dros 2,000 o chocolatiers yn cynhyrchu dros 172,000 tunnell o siocled bob blwyddyn. Maes awyr Brwsel yw'r man gwerthu siocled mwya' poblogaidd yn y byd.

Mae moules-frites (cregyn gleision a sglodion), carbonade flamande (stiw cig eidion) a waffles hefyd yn nodweddiadol o Wlad Belg.

Cwrw Trappist

Mae'r Belgiaid hefyd yn cymryd eu cwrw o ddifrif, ac maen nhw'n cael eu hystyried ymysg y gorau yn y byd. Mae dros 800 o wahanol fathau o gwrw yn cael eu cynhyrchu yng Ngwlad Belg gyda thrigolion y wlad yn yfed 150 litr ar gyfartaledd bob blwyddyn.

Mae cwrw Trappist yn cael eu cynhyrchu mewn mynachlogydd hyd heddiw, ac mae chwech o'r 11 cwmni cwrw Trappist presenol yn dod o Wlad Belg. Ymysg yr enwocaf mae cwrw Westmalle a Chimay.

Enwogion Gwlad Belg

Mae rhai yn honni nad oes llawer o bobl adnabyddus yn dod o Wlad Belg. Ond mewn gwirionedd mae amryw: Eddy Merckx y beiciwr a enillodd y Tour de France bum gwaith, yr arlunwyr Peter Paul Rubens a Jan Van Eyck, a'r actorion Jean-Claude Van Damme ac Audrey Hepburn.

Image caption Un o enwogion Gwlad Belg a seren 'Breakfast at Tiffany's', Audrey Hepburn

'Y Glec Fawr'

Cafodd damcaniaeth y Glec Fawr (the Big Bang theory) ynglŷn â sut a gafodd y bydysawd ei ddyfeisio gan y gwyddonydd George Lemaitre yn 1927. Roedd Lemaitre yn offeiriad Catholig a oedd wedi astudio yng Ngholeg Rhydychen, Harvard, a nifer o sefydliadau anrhydeddus eraill.

Deimyntau

Antwerp yw prif ddinas deimyntau y byd gyda trosiant gwerthu o dros €29 billion y flwyddyn (8% o holl allforion Gwlad Belg). Mae deimyntau wedi eu gwerthu yn Antwerp ers 1447, ac mae'r ddinas yn delio â 80% o holl 'rough diamonds' y byd - 50% o'r deimyntau sydd wedi eu torri a 45% o'r deimyntau diwydiannol.

Cariad at gomics

Mae mwy o artistiaid llyfrau comic yng Ngwlad Belg fel canran o'r boblogaeth nac unman arall yn y byd. Cafodd y cymeriad Tin Tin ei greu gan Herge (Georges Remi) o Frwsel yn 1929. O'r brif ddinas hefyd daw Pierre Culliford a greodd y Smyrffs yn y 1950au.

Image caption Y Smyrffs, sydd dal yn boblogaidd gyda phlant heddiw ac wedi ei wneud i sawl ffilm

Criced o Wlad Belg?

Mae llawer o academyddion yn credu fod gwreiddiau y gêm griced yn dod o Wlad Belg, nid Lloegr, ac bod mewnfudwyr o ogledd Gwlad Belg wedi dod â'r gêm yno.

Mae darn o farddoniaeth o 1533 sy'n galw gweyddion (weavers) Fflemeg yn 'king of crekettes' ac yn hefyd sôn am 'wickettes'. Mae hyn dipyn cynharach na'r sôn cyntaf am criced yn Lloegr yn y 1600au.

Y Sacsoffon

Cafodd y sacsoffon ei ddyfeisio gan Adolphe Sax o Wlad Belg yn 1840. Roedd Dinant, tref enedigol Sax, yn rhan o Ymerodraeth Ffrainc ar y pryd ond mae bellach yn rhan o ranbarth Walonia, Gwlad Belg. Bu farw ym Mharis yn 1894 mewn tlodi mawr.

Image caption Adolphe Sax

Hanes tîm pêl-droed Gwlad Belg

O'r 20 cystadleuaeth Cwpan Pêl-droed y Byd sydd wedi bod, mae Gwlad Belg wedi ymddangos 12 gwaith, gyda'r canlyniad gorau yn Mecsico yn 1986 pan wnaethon nhw orffen yn bedwerydd.

Dim ond pum gwaith maen nhw wedi cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop allan o'r 15 cystadleuaeth sydd wedi'u cynnal. Mi wnaethon nhw gyrraedd y rownd derfynol yn Rhufain yn 1980 ond colli 2-1 wnaethon nhw yn erbyn Gorllewin yr Almaen.

Image copyright Alamy
Image caption Eden Hazard - y bygythiad mwyaf i Gymru yn Lille?