'Llai o fuddsoddiad' wrth adael y farchnad sengl

Skates

Byddai gadael y farchnad sengl Ewropeaidd yn gwneud hi yn "fwy anodd i ddenu buddsoddiad" i Gymru, yn ôl ysgrifennydd economi Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ken Skates bod rhan fwyaf o fuddsoddwyr tramor yn gweld y farchnad sengl fel y "ffactor fwyaf pwysig i fuddsoddi yma".

Ond mae hefyd wedi dweud bod y bleidlais i adael yr UE yn cynnig cyfleoedd i economi Cymru.

Roedd yr ysgrifennydd yn siarad mewn cynhadledd yng Nghaerdydd rhwng y Sefydliad Materion Cymreig a Capital Law.

"Yn y tymor byr mae angen i ni ddatrys yr ansicrwydd byd eang, nid dim ond yn Ewrop a Chymru ynglŷn â beth mae hynny yn golygu i'r byd," meddai Mr Skates.

"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein neges i'w glywed yn uchel a chlir- mae Cymru ar agor i fusnesau. Rydyn ni eisiau trafod gyda chi, eisiau cydweithio gyda chi."

Gofynnwyd iddo a fyddai cwmnïau tramor yn fwy tebygol o fuddsoddi mewn gwledydd sydd yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd yn hytrach na Chymru nawr.

"Ddim o anghenraid" oedd ateb yr ysgrifennydd: "Fel y dywedodd Aston Martin pan wnaethon nhw'r penderfyniad i ddod i Gymru, mae gyda ni lywodraeth fach ddeinamig, chwim, ystwyth. Roedden ni'n gallu ymateb yn gyflym.

Dim cynllun?

"Mae gyda ni weithlu sydd gyda sgiliau ac mae'r sgiliau hynny yn gwella bob diwrnod. Felly mae 'na gyfleoedd gwych, unigryw yng Nghymru."

Ond mae Plaid Cymru wedi dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun ar gyfer delio gyda chanlyniad y refferendwm.

Dywedodd llefarydd yr economi, Adam Price, ei fod wedi ei "synnu ac yn gofidio" ynglŷn ag ymateb y llywodraeth i'r ffaith bod Prydain wedi dewis gadael yr UE.

Mae Plaid yn galw am fwy o fuddsoddiad yng Nghymru yn lle'r grantiau Ewropeaidd, buddsoddiad mewn seilwaith a phwerau trethu newydd.

Dywedodd Mr Price: "Does dim cynllun wrth gefn. Roedden ni yn galw am hyn ychydig wythnosau yn ôl pan ddaeth hi'n glir i ni fod yna bosibilrwydd go iawn y byddai Prydain yn gadael yr UE a'r effaith bosib ar Gymru.

"Rydyn ni angen ryw fath o arwydd gan Lywodraeth Cymru bod yna gynllun yn ei le ar gyfer Cymru."