Cymru'n cofio brwydr y Somme

caerdydd

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu cynnal ddydd Gwener i gofio canrif ers brwydr fawr y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Am 07:28 cafodd dau funud o dawelwch ei gynnal led led Cymru a'r DU i gofio am y rhai a gollwyd.

Dros nos fe gafodd gwylnos ei chynnal yng Nghaerdydd, gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn arwain y dathliadau cofio yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Roedd Mr Jones hefyd yn cynrychioli Cymru mewn gwasanaeth coffa ddydd Gwener yng Nghofeb Thiepval gogledd Ffrainc i'r Milwyr Coll.

Yno hefyd i gofio'r frwydr ac i goffau y rhai gafodd eu colli roedd Côr Orpheus Treforys.

Fe ddaeth yr wylnos dros nos yn yr Eglwys Gadeiriol i ben gyda gwasanaeth cyhoeddus yn y Gofeb Rhyfel Genedlaethol ym Mharc Cathays am 07:30 fore Gwener.

Roedd yr wylnos yn rhan o raglen Cymru'n Cofio 1914-1918 Llywodraeth Cymru, sy'n nodi 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Brwydr y Somme yng ngogledd Ffrainc oedd un o'r rhai mwyaf gwaedlyd yn rhyfel - gyda 19,240 o filwyr Prydain yn cael eu lladd ar y diwrnod cyntaf. Fe ddechreuodd Brwydr y Somme ar 1 Gorffennaf 1916, gan bara pum mis.

Image copyright Matthew Horwood
Image caption Cafodd llusern o'r ffosydd ei goleuo a'i chludo i'r Gofeb Rhyfel Genedlaethol
Image caption Cafodd y ganwyll ei chludo o Eglwys Gadeiriol Llandaf i'r Gofeb Rhyfel Genedlaethol, Caerdydd

Digwyddiadau ledled Cymru

Ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint roedd arddangosfa i adrodd hanes rhai o'r milwyr lleol fu'n brwydro ym mrwydr y Somme, ac fe ddangoswyd ffilm ym Mhlas Llanelly.

Roedd digwyddiadau drwy ddydd Gwener gydag Eglwys Santes Fair, y Trallwng, ym Mhowys yn cynnal gwasanaeth am 18:00.

Mae'r Lleng Brydeinig wedi lansio ymgyrch 'Chwaraeon yn cofio'r Somme', sydd yn cynnwys teyrnged i chwe chwaraewr rygbi a phêl droed rhyngwladol o Gymru fu farw yn ystod brwydr y Somme.

Image caption Cafodd gwasanaeth bore dydd Gwener ei gynnal yn y Gofeb Rhyfel Genedlaethol ym Mharc Cathays
Image caption Jane Hutt o Lywodraeth Cymru ac aelodau o'r lluoedd arfog ym Mharc Cathays
Image caption Gynnau mawrion yn cael eu tanio ym Mharc Cathays i gofio'r miliwn a mwy o filwyr a gafodd eu lladd

Yng Nghaernarfon dadorchuddiwyd carreg gofeb i gofio'r unig filwr o'r dref i dderbyn y Groes Fictoria yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd y seremoni yn coffau'r Grŵp Gapten Lionel Wilmot Brabazon Rees, mab i swyddog yn y fyddin a aned ym Mhlas Llanwnda, Caernarfon.

Dyfarnwyd y Groes Fictoria iddo am ei ymdrech ar 1 Gorffennaf 1916 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf - yr unig berson o Wynedd i dderbyn yr anrhydedd yn ystod y Rhyfel Mawr.

Image caption Y Grŵp Gapten Lionel Wilmot Brabazon Rees a'r gofeb bresennol iddo ym Mhorth yr Aur, Caernarfon

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n arwain ar faterion Lluoedd Arfog: "Brwydrodd nifer o fechgyn ifanc Gwynedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'n hynod o bwysig ein bod ni yn cofio a thalu teyrnged i'w haberth dros ganrif yn ôl.

"Rydym yn falch ein bod yn trefnu'r seremoni yma sy'n coffau yr unig filwr o Wynedd i dderbyn y Groes Fictoria yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf."

Image copyright IWM
Image copyright Y Lleng Brydeinig
Image caption Lansio ymgyrch 'Chwaraeon yn cofio'r Somme'

Straeon perthnasol