Pwyliaid 'yn cael eu hecsbloetio' medd Carwyn Jones

Carwyn Jones yn Llanelli
Image caption Carwyn Jones yn Llanelli

Mae rhai Pwyliaid yng Nghymru yn cael eu hecsbloetio mewn ffordd na fyddai llawer o Gymry yn ei dderbyn meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Lleisiodd Mr Jones ei anfodlonrwydd am adroddiadau bod mewnfudwyr wedi dioddef camdriniaeth yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth iddo ymweld â chanolfan Bwyleg yn Llanelli ddydd Iau.

Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru bod gan bob gwlad ei ffyliaid, a bod gan Gymru rai hefyd.

"Byddai llawer o Gymry'n synnu ar ba mor wael yw amgylchiadau gwaith llawer o Bwyliaid yng Nghymru mewn gwirionedd," meddai.

"Mae llawer o ecsbloetio'n digwydd yma. Fyddai'r Cymry ddim yn derbyn y fath beth."

'Cyflogaeth ansicr'

Ychwanegodd Mr Jones: "Mae 'na Bwyliaid yn byw yma sydd ddim yn gwybod ble maen nhw'n gweithio o un wythnos i'r llall.

"Maen nhw'n dod yma drwy asiantaethau, ac mae ganddyn nhw gyflogaeth ansicr iawn.

"Mae pobl rwy'n ei adnabod yn teimlo'n flin ar hyn o bryd, ond fy neges yw peidio lleisio'ch dicter tuag at grŵp arall o bobl.

"Lleisiwch eich dicter i gyfeiriad system sydd wedi gadael pobl mewn sefyllfa nad oes ganddyn nhw sicrwydd swyddi, does ganddyn nhw ddim pensiynau, dydyn nhw ddim yn teimlo fel bod ganddyn nhw sicrwydd."

Image copyright CPC
Image caption Cafodd y poster yma o Bwyliaid yn sgwadron enwog 303 yr RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd ei adael ar ddrws y Ganolfan Bwyleg yn Llanelli wedi pleidlais Brexit

Wrth gyfarfod aelodau Cymdeithas Bwyleg Gymraeg Llanelli, dywedodd Mr Jones bod "rhai pobl yn credu fod y bleidlais wedi eu galluogi i gam-drin eraill".

"Mae gan bob gwlad ei ffyliaid ac mae gan Gymru nhw hefyd," meddai.

"Does dim rheswm pam y dylai pobl sydd yn wahanol gael eu cam-drin yn y ffordd yna.

"Beth yw terfyn hyn yn y pen draw? Rydym yn wlad groesawgar, ac yn wlad o fewnfudwyr mewn gwirionedd."

Bu Mr Jones yn ymweld â phobl ifanc a theuluoedd sydd wedi derbyn cymorth gan y Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig yn Abertawe.

Image caption Pwyliaid yn gadael Gwlad Pwyl am Brydain yn 2006

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe, Taha Idris: "Mae pobl yn dweud wrthym ni eu bod wedi dechrau dioddef camdriniaeth uniongyrchol fel: 'Beth ydych chi'n dal i'w wneud yma, ewch adref' a sylwadau am ddod a mewnfudo i ben.

"Rydym yn pryderu mai'r cam nesaf yn y broses hon allai fod yn ymosodiadau corfforol ar ein strydoedd.

"Mae pobl sydd wedi gwneud Bae Abertawe yn gartref iddyn nhw ers blynyddoedd angen eu cysuro."

Dywedodd Rocio Cifuentes, cyfarwyddwr Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig yn Abertawe ei bod yn croesawu sylwadau Carwyn Jones.

"Dyma'r amser i ni i gyd fel unigolion, cymunedau ag arweinyddion gwleidyddol i ail-gryfhau ein hymdrechion a'n lleisiau o oddefgarwch a rheswm i fod yn uwch na lleisiau anoddefgarwch a rhagfarn."