Euro 2016: Williams yn holliach i Gymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Euro 2016: Ashley Williams yn holliach i Gymru

30 Mehefin 2016 Diweddarwyd 17:30 BST

Yn dilyn cynhadledd i'r wasg Cymru ddydd Iau, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Dylan Griffiths sy'n rhoi sylw i rai o'r pynciau trafod cyn y gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Wener.

Y newyddion da i Gymru - mae'r capten Ashley Williams wedi gwella o anaf i'w ysgwydd, ac yn debygol o ddechrau yn Lille.