Euro 2016: Holi'r pennaeth cyfathrebu
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Euro 2016: Holi'r pennaeth cyfathrebu, Ian Gwyn Hughes

30 Mehefin 2016 Diweddarwyd 21:05 BST

Mae sêr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn clywed eu henwau'n cael eu canu gan y dorf ym mhob gêm, ac aelodau'r tîm hyfforddi'n derbyn clod mawr yn y wasg.

Ond un o aelodau eraill Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy'n chwarae rhan allweddol y tu ôl i'r llenni yw'r pennaeth cyfathrebu, Ian Gwyn Hughes.

Mae'r cyn-newyddiadurwr wedi derbyn llawer o glod am gyflwyno mwy o ddefnydd o'r iaith Gymraeg o fewn y gymdeithas, mewn cynadleddau i'r wasg ac ar wefannau cymdeithasol.

Rhodri Llewelyn fu'n ei holi ar ran BBC Cymru.