Canlyniadau clybiau Cymru yng Nghynghrair Europa

Image copyright CPD Y Bala

AIK 2-0 Y Bala

Fe wnaeth Y Bala frwydro'n galed yn erbyn AIK yn Sweden wrth iddyn nhw gael eu trechu yn y cymal cyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa.

Fe roddodd Amin Affane AIK ar y blaen yn yr hanner cyntaf a doedd ymosod Y Bala ddim yn cael llwyddiant yn torri trwy amddiffyn y tîm cartref.

Wedi'r egwyl, fe wnaeth cyn-amddiffynnwr Blackburn Rovers a Leicester, Nils-Eric Johansson ddyblu mantais y clwb o Sweden.

Bu bron i Mike Hayes sgorio gôl bwysig i'r Bala ar ddiwedd y gêm ond cafodd ei ergyd ei arbed gan y golwr, Patrik Carlgren.

IFK Goteborg 5-0 Llandudno

Cafodd Llandudno eu trechu o 5-0 gan IFK Goteborg yn y cymal cyntaf yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa yn Sweden.

Fe wnaeth Gustav Engvall a Soren Rieks rwydo i'r tîm cartref i'w rhoi ar y blaen o 2-0 o fewn 12 munud.

Gwaith da Mikael Boman wnaeth greu gôl Emil Salomonsson i'w gwneud hi'n 3-0 ar yr hanner wrth i Landudno fethu ag ymdopi gyda thalent y Swediaid.

Fe wnaeth Tobias Hysen sgorio'r bedwaredd i Goteborg gyda 10 munud i fynd cyn ychwanegu ail ychydig funudau'n ddiweddarach.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae ymosodwr Goteborg, Tobias Hysen wedi ennill 34 o gapiau i Sweden

Cei Connah 0-0 Stabaek

Fe lwyddodd Cei Connah i sicrhau gêm gyfartal gyda chlwb Stabaek o Norwy yn y cymal cyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa yn y Belle Vue yn Y Rhyl.

Cei Connah wnaeth sicrhau'r safle olaf yng Nghynghrair Europa gyda buddugoliaeth yn erbyn Airbus ym mis Mai.

Roedd hi'n hafal iawn rhwng y ddau dîm am rannau helaeth o'r gêm, gyda Michael Wilde yn gorfodi arbediad gan y golwr Gurpreet Singh Sandhu ar ran y tîm cartref.

Aeth Nicolai Naess yn agos i sgorio i'r ymwelwyr yn hwyr yn y gêm, ond roedd Cei Connah wedi gwneud digon i sicrhau gêm gyfartal.