Ryan Giggs yn gadael Manchester United

Ryan Giggs Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Giggs chwarae ei gêm broffesiynol gyntaf ym Mawrth 1991 yn erbyn Everton

Mae Ryan Giggs yn gadael Manchester United wedi 29 o flynyddoedd gyda'r clwb.

Roedd y Cymro wedi bod yn gweithio fel is-hyfforddwr yn y blynyddoedd diwethaf, yn ystod cyfnodau David Moyes a Louis Van Gaal wrth y llyw.

Ond wedi penodiad Jose Mourinho i swydd y rheolwr, fe fethodd Giggs â'r clwb ddod i gytundeb am swydd newydd.

Mae disgwyl i Mourinho benodi ei gyfaill Rui Faria fel is-hyfforddwr, ac mae'n debyg y bydd United yn cadarnhau ymadawiad Giggs yn y dyddiau nesaf.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Giggs yn aelod o'r garfan wnaeth ennill yr Uwchgynghrair y tro cyntaf cafodd y bencampwriaeth ei chynnal.

Fe wnaeth Giggs, sy'n enedigol o Gaerdydd, ymuno ag academi United yn 14 oed, gan droi'n broffesiynol yn 1990.

Fe chwaraeodd 963 gêm dros y clwb, cyn iddo droi at hyfforddi.

Y llynedd roedd nifer o adroddiadau yn cysylltu Giggs gyda swydd rheolwr Abertawe.