Cymeradwyo perchnogion newydd Abertawe

jason Image copyright Getty Images
Image caption Jason Levien, un o berchnogion newydd Abertawe

Daeth cadarnhad heddiw bydd dau ddyn busnes o'r Unol Daleithiau'n prynu Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi iddyn nhw gael caniatad yr Uwch Gynghrair.

Mae Jason Levien a Steve Kaplan yn arwain consortiwm fydd yn talu bron i £100m i gael rheolaeth o 60% o'r clwb.

Mewn datganiad, dywedodd y perchnogion newydd eu bod "wedi cyffroi i fod yn rhan o gyfnod newydd i Abertawe."

Fe ychwanegon nhw: "Rydym wrth ein bodd bod yr Uwch Gyngrhair wedi cymeradwyo ein cytundeb i brynu cyfran reoli yn y clwb.

"Mae 'na fân bethau sydd ar ôl i'w cwblhau ynglŷn â'r cytundeb, ond rydym yn rhagweld bydd y cytundeb wedi'i gwblhau erbyn diwedd y mis."

'Symud ymlaen'

Fe ddywedodd cadeirydd y clwb, Huw Jenkins ei fod yn "hynod blês â'r cyfarfod gyda'r Uwch Gynghrair".

"Mae hyn yn ein galluogi ni i symud ymlaen a rhoi popeth yn ei le ar gyfer dechrau tymor pwysig iawn arall yn yr Uwch Gynghrair", meddai.

Dydy rhedeg clwb ddim yn newydd i Mr Levien, sydd hefyd yn berchennog DC United yng nghynghrair bêl-droed yr MLS yn ei wlad gynhenid.

Er y newid, mi fydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe, sydd â chynrychiolwyr ar y bwrdd rheoli, yn parhau â 21.1% o gyfranddaliadau yn y clwb.

Mae hi hefyd yn debyg y bydd Huw Jenkins yn parhau fel cadeirydd a Leigh Dineen fel is-gadeirydd.