Llafur yng nghanol 'argyfwng', medd cyn Ysgrifennydd Cymru

Peter Hain

Mae'r blaid Lafur yng nghanol "argyfwng mawr" ac wedi colli cysylltiad gyda'i phleidleiswyr, yn ôl cyn Ysgrifennydd Cymru, yr Arglwydd Hain.

Dywedodd wrth raglen BBC Sunday Politics Wales nad ydy o erioed wedi bod mor bryderus am obeithion y blaid: "Nes i brofi cythrwfl yr 1980au...Mae hyn yn fwy difrifol. Mae sylfaen ein pleidlais yn llawer gwannach."

Dywedodd y cyn weinidog cabinet ei fod wedi ymgyrchu ar draws Cymru cyn refferendwm Ewrop: "Yr hyn sydd yn glir ydy fod grwpiau cyfan o bobl o'r cymoedd oedd yn arfer pleidleisio ar gyfer y blaid Lafur yn teimlo eu bod nhw wedi eu gadael ar ôl...mae'n foment beryglus iawn i ni."

Ychwanegodd: "Yr hyn sydd yn rhaid i ni wneud yw diwygio, ail sefydlu ein plaid yn y cymunedau ond nid yn yr hen sefydliadau sydd wedi diflannu, yr undebau llafur a'r clybiau.

"Fe allwn ni newid pethau....Os byddai gyda ni arweinyddiaeth gredadwy...yna dw i'n meddwl y gallwn ni ennill, hyd yn oed os bydd yna etholiad cyffredinol cynnar."