Ymgyrchwyr yn galw am 'Gymru Rydd yn Ewrop'

rali

Bu cannoedd o bobl mewn rali yng Nghaernarfon a Chaerdydd ddydd Sadwrn gan ymgyrchu o blaid annibyniaeth i Gymru yn Ewrop.

Dywed y trefnwyr eu bod wedi sefydlu'r grŵp yn dilyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Cymru Rydd yn Ewrop yn dadlau bod yr hyn ddigwyddodd ar 23 Mehefin wedi golygu bod annibyniaeth i Gymru nawr yn "hanfodol".

Ond mae David Jones, y Ceidwadwr wnaeth arwain ymgyrch Vote Leave Cymru, wedi disgrifio'r alwad fel un "annemocrataidd".

Ymhlith y siaradwyr yn y ddwy rali oedd yr Arglwydd Wigley a'r awdur Patrick McGuiness.

Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bod angen i'r DU fod yn "undeb o wledydd annibynnol".

Image caption Yr Arglwydd Wigley yng Nghaernarfon

Mae ymgyrchwyr y rali yn credu mai San Steffan sydd i feio am y tlodi sy'n bodoli yng Nghymru ac nid yr Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw yn dweud bod Cymru wedi elwa o fod yn rhan o'r UE. Dywedodd Ifan Morgan Jones, o Cymru Rydd yn Ewrop: "Er bod mwyafrif yng Nghymru wedi pleidleisio allan o'r Undeb Ewropeaidd, dim ond o drwch blewyn y gwnaethpwyd hynny.

"Dydyn ni ddim yn credu bod pobl Cymru wedi derbyn y ffeithiau i gyd cyn y bleidlais. Cynhaliwyd y ddadl mewn cyd-destun Prydeinig, heb bron i ddim trafodaeth ynglŷn â'r sgil effeithiau ar Gymru.

"Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi buddsoddi dros £4 biliwn yng Nghymru ers y flwyddyn 2000. Yn wahanol i rai rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, mae Cymru'n derbyn mwy yn ôl nag y mae'n ei roi i mewn."

Image copyright Nic James/Twitter
Image caption Y golygfeydd yng Nghaerdydd

Mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod hi'n bwysig i Brydain aros yn rhan o'r farchnad sengl gan rhybuddio os nad ydy hyn yn digwydd y gallai'r wlad wynebu dirwasgiad arall.

Maen nhw hefyd yn credu y byddai swyddi yn cael eu colli a chwmnïau yn dewis symud eu busnesau dramor.

Dywedodd Mr Jones, AS Gorllewin Clwyd: "Fe wnaeth Cymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin ac i bobl alw am unrhyw drefniant arall, mae'n gwbl annemocrataidd.

Yn ymateb i honiadau y byddai Cymru'n dlotach tu allan i'r undeb, dywedodd: "Dyna maen nhw'n ddweud ond dyw mwyafrif y bobl yn amlwg ddim yn cytuno. Fe ddylai'r gwrthdystion barchu ewyllus y bobl."

Yn y cyfamser mae Andrew R T Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud bod Plaid Cymru a Llafur gyda meddylfryd "Prydain fach".

Mewn erthygl ar gyfer gwefan The Times dywedodd bod galwad Plaid Cymru ar gyfer annibyniaeth "allan o drefn gydag anghenion cymunedau Cymru".

Mae hefyd wedi beirniadu Prif Weinidog Cymru. Dywedodd fod Carwyn Jones wedi bod yn "uchel ei gloch ynglŷn â darogan och a gwae am yr economi ac yn pardduo'r rhai wnaeth ddewis gadael".