Agor Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn Abertawe

Red Arrows Image copyright Claire Hartley
Image caption Ymysg uchafbwyntiau'r sioe mae'r Red Arrows byd-enwog

Bydd bwrlwm yn yr awyr uwchben Bae Abertawe'r penwythnos yma, wrth i Sioe Awyr Genedlaethol Cymru gychwyn.

Ymysg y criwiau fydd yn dangos eu doniau mae'r Red Arrows a thîm parasiwtio'r Tigers.

Bydd awyren Rwsiaidd yr MiG-15, sy'n gallu cyrraedd cyflymder o dros 1,000 km yr awr, hefyd yn hedfan.

Yn ôl y Cynghorydd Robert Francis-Davies, sy'n gyfrifol am fenter, datblygu ac adfywio ar gabinet Cyngor Abertawe, mae'r digwyddiad - sydd am ddim i'r cyhoedd - yn hwb i'r ddinas.

"Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru'n un o uchafbwyntiau rhaglen ddigwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe," meddai.

"Mae'n newyddion gwych i bobl a busnesau Abertawe, ac yn dod â miliynau o bunnau i'r economi leol mewn cyfnod o un penwythnos."