Euro 2016: Ffi parcio maes awyr Dean Saunders yn £1,000

deano Image copyright PA

Mae Maes Awyr Birmingham wedi dweud na fydd yn rhaid i gyn ymosodwr Cymru dalu ei ffi parcio anferth pe bai tîm Chris Coleman yn ennill Euro 2016.

Fe adawodd Dean Saunders, sy'n gweithio i Ffrainc ar ran y BBC, ei gar yn y maes parcio arhosiad byr gan feddwl y byddai Cymru'n mynd allan yn gynnar.

Ond wedi i'r tîm cenedlaethol gyrraedd y rownd gyn derfynol, mae disgwyl i'w ffi parcio godi i hyd at £1,000.

Dywedodd y maes awyr ar Trydar na fyddai Saunders yn gorfod ei dalu, pe bai Cymru'n ennill y gystadleuaeth.

Fe gurodd tîm Coleman Gwlad Belg o 3-1 nos Wener er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol prif gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed.

Fe ddywedodd Saunders, a gafodd 75 o gapiau i'w wlad, ei fod yn rhedeg allan o ddillad glan yn Ffrainc.

Dywedodd y maes awyr: "Dydyn ni methu helpu Dean gyda sefyllfa ei ddillad, ond os ydi Cymru'n ennill Euro 2016, ni fydd yn rhaid iddo dalu ei ffi parcio!"