Yr heddlu'n ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy ym Mangor

cordon Image copyright Christopher Furlong

Mae heddlu'r gogledd yn ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy dyn yng Ngwynedd.

Cafodd Peter Jones, 60, ei ddarganfod mewn lôn gefn ger Stryd Fawr Bangor yn oriau man fore Sadwrn.

Er bod ymdrechion i'w adfywio, bu farw yn yr ysbyty.

Mae ei deulu yn ymwybodol o'i farwolaeth ac mae swyddogion yn eu cefnogi.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion neu unrhyw un sy'n ymwybodol o'i symudiadau yn y 24 awr cyn ei farwolaeth.