Dyn, 80, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl

heddlu

Mae dyn 80 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl fore Sul, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Tŷ Newydd tua 09:00.

Roedd gyrrwr y Ford Transit Connect Van yn ddyn lleol, meddai'r heddlu, a doedd dim cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.