Euro 2016: Cynulleidfa uchaf erioed ar gyfer gêm fyw

hal

Fe wnaeth 'na fwy o wylwyr nag erioed o'r blaen yng Nghymru wylio tîm Chris Coleman yn cyrraedd rownd cyn derfynol Euro 2016.

Ar ei uchaf roedd y gynulleidfa yn 1.27 miliwn, sy'n record ar deledu yn y wlad ar gyfer gwylio chwaraeon byw, meddai'r BBC.

Roedd hefyd y trydydd uchaf yn y ganrif hon yng Nghymru, gyda dim ond seremonïau i agor a chau gemau'r Olympaidd yn uwch.

Mae buddugoliaeth Cymru dros Wlad Belg o 3-1 nos Wener wedi ei disgrifio fel yr un orau erioed.

Cyn y gystadleuaeth hon, y gynulleidfa uchaf ar gyfer gêm ryngwladol Cymru yn y ganrif hon oedd Rwsia yn 2003, sef ail gymal y gemau ail-gyfle yn erbyn Rwsia.