Angen 'bwrw ymlaen' gydag gwario arian Ewropeaidd

Andrew Morgan Image copyright RCT

Mae angen "bwrw ymlaen yn gynt" gyda buddsoddi arian Ewropeaidd cyn i'r Deyrnas Unedig adael yr UE, yn ôl arweinydd un o gynghorau mwyaf Cymru.

Dywedodd Andrew Morgan, o Gyngor Rhondda Cynon Taf, bod rhaid cyflymu'r broses o ddarparu prosiectau isadeiledd yn dilyn y refferendwm.

Mae 1.1bn o gyllid Ewropeaidd eto i'w gael ei ddosbarthu a bydd llawer ohono yn mynd i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Y disgwyl yw i'r arian gael ei fuddsoddi rhwng nawr a 2020, ond bydd gadael yr undeb yn arwain at lai o gyllid.

Mae ymgyrchwyr oedd yn dymuno peidio parhau yn rhan o'r UE yn dweud y byddai Llywodraeth y DU yn camu i'r bwlch gan ddarparu'r arian.

Ond mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn amheus nad dyna fwriad y Trysorlys.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sy'n gyfrifol am gronfeydd strwythurol yr UE ac mae'n rhan o Lywodraeth Cymru.

Mae Mr Morgan wedi galw am gyflymu'r broses ddarparu'r arian.

"Mae'r Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn symud yn llawer rhy araf," meddai arweinydd Rhondda Cynon Taf.

"Mae'n broses sy'n cymryd hirach nac sydd angen ac os ydi cyllid Ewropeaidd dan fygythiad mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen yn gynt.

"Byddwn yn gobeithio y byddai'r llywodraeth yn rhoi pwysau ar Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i gael y prosiectau yma ar waith mor fuan ag sy'n bosib."

Mae'r arweinydd yn dweud bod ei swyddogion yn gweithio ar frys ar nifer o gynlluniau adfywio trefi sy'n cael eu cyllido gan yr UE.

Bydd y corff sy'n goruchwylio gwariant yr UE yng Nghymru yn cyfarfod am y tro cyntaf ers y refferendwm ddydd Gwener, dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

'Angen eglurhad'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn benderfynol o wneud y mwyaf o'r cyllid Ewropeaidd sy'n cael ei ddosbarth i Gymru, er mwyn ein pobl, cymunedau, busnesau, prifysgolion a cholegau elwa.

"Ble mae'n bosib cyflymu'r broses o ddefnyddio cyllid o'r UE, byddwn yn anelu i wneud union hynny.

"Mae amddiffyn swyddi, busnesau a chymunedau gan weithredu ar ein rhaglenni yng Nghymru yn ddibynnol ar yr amserlen o adael yr UE ac mae angen eglurhad gan Lywodraeth Prydain o'r amserlen.

"Rydym hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i warantu pob ceiniog o gyllid Ewropeaidd sy'n dod i Gymru."