Teyrngedau i'r cyn filwr Thomas Sloman fu farw yn Y Barri

milwr Image copyright Heddlu De Cymru

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-filwr o'r Barri, sydd wedi marw dros y penwythnos.

Bu farw Thomas Julian Sloman, 27 oed, yn dilyn digwyddiad mewn stryd yn y dref yn ystod oriau man bore Sadwrn.

Cafodd ei ddarganfod ar lawr ger Broad Street, am tua 04:00, ac mae'r heddlu yn trin ei farwolaeth fel un anesboniadwy ac yn ceisio cadarnhau'r holl ffeithiau.

Er gwaethaf ymdrechion gan swyddogion a pharafeddygon, bu farw Mr Sloman yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Fe gafodd dyn 42 oed ei arestio mewn cysylltiad a'r digwyddiad, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

'Dyn da'

Mae teulu Mr Sloman wedi ei ddisgrifio fel "mab cariadus a thad, cariad, brawd, ŵyr a nai ffyddlon", gan ychwanegu: "Roedd ei holl deulu a'i ffrindiau yn ei garu'n fawr.

"Bu'n fraint iddo gael gwasanaethu ei wlad fel aelod o'r Gwarchodlu Cymreig, ac fe wnaeth wasanaethu yn Afghanistan.

"Yn ddiweddar fe wnaeth adael y fyddin ac roedd yn edrych 'mlaen at y bennod nesa' yn ei fywyd.

"Roedd yn ddyn da ac yn hynod o garedig a bydd pawb oedd yn ei garu ac yn ei adnabod yn ei fethu."

Roedd Mr Sloman wedi bod allan gyda ffrindiau nos Wener yn gwylio Cymru'n curo Gwlad Belg 3-1 yn rownd yr wyth olaf Euro 2016.