Stadiwm Principality i gynnal ardal gefnogwyr Euro 2016

Principality

Stadiwm Principality fydd yn cynnal ardal gefnogwyr Euro 2016 yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm yn erbyn Portiwgal nos Fercher.

Mae Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Caerdydd yn gweithio ar y cyd i alluogi i gefnogwyr wylio'r gêm am ddim yn y stadiwm cenedlaethol.

Mae'r trefnwyr yn dweud y bydd sgrîn 100 troedfedd yn y stadiwm, yn ogystal â'r ddwy sgrîn barhaol sydd yno.

Bydd tocynnau ar gael am ddim o wefan Stadiwm Principality o 10:00 ddydd Mawrth ar gyfer yr 20,000 o seddi fydd ar gael yn y stadiwm.

Roedd yr ardal gefnogwyr ym Marc Biwt wedi gweld 6,000 o bobl yn mynd drwy'r giatiau ar gyfer pob gêm hyd yma.

Bydd ardaloedd cefnogwyr tebyg yn Ynys Môn, Casnewydd, Pontypridd, Abertawe, Aberystwyth a Wrecsam, gyda rhai eto i gyhoeddi'r manylion yn llawn.

Mae disgwyl i Gyngor Abertawe gyhoeddi ddydd Llun neu ddydd Mawrth os bydd safle mwy gan y ddinas ar ei chyfer.

Image caption Y dathlu yn ardal gefnogwyr Caerdydd nos Wener

Mae digwyddiadau hefyd wedi eu trefnu yng Nghonwy, lle bydd y cyngor yn creu ardal y cefnogwyr deuluol am ddim, a dyma fydd yr un mwyaf yn y gogledd.

Maen nhw yn gwahodd cefnogwyr i ymuno â'i gilydd i "gefnogi hogia' ni" ar gae'r Eisteddfod yn Eirias.

Mae'r digwyddiad yn agor am 6pm, yn barod at y gic gyntaf am 20:00.

'1,000 o gefnogwyr'

Yn Aberystwyth mae Emlyn Jones a Shelley Childs wedi llwyddo i drefnu ardal cefnogwyr o fewn diwrnod.

Fe gafodd y ddau'r syniad ddydd Sul ac maen nhw wedi trefnu popeth erbyn hyn gan gynnwys faniau bwyd a phabell gwrw.

Bydd sgrin fawr yn dod o Bradford i Aberystwyth a hynny am "nad oedd yna rhai ar ôl yng Nghymru gyfan", meddai Mr Jones.

Dywedodd nad oedd yn gallu mynd i'r rownd gyn derfynol am ei fod yn athro.

"Nes i benderfynu bod rhaid trefnu rhywbeth yn Aberystwyth," meddai.

"Bydd y sgrin yn cael ei gosod ym maes parcio'r clwb rygbi ac mae gyda ni ddigon o le ar gyfer hyd at 1,000 o gefnogwyr."

Bydd tocynnau yn cael eu gwerthu ar gyfer y digwyddiad.