Marwolaeth anesboniadwy ym Mangor 'ddim yn amheus'

cordon Image copyright Christopher Furlong

Mae heddlu'r gogledd sy'n ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy dyn yng Ngwynedd wedi dweud nad ydynt yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Cafodd Peter Jones, 60, ei ddarganfod mewn lôn gefn ger Stryd Fawr Bangor yn oriau man fore Sadwrn.

Er bod ymdrechion i'w adfywio, bu farw yn yr ysbyty.

Diolchodd Y Ditectif Arolygydd Gerwyn Thomas o Heddlu'r Gogledd i aelodau o'r cyhoedd am eu cynorthwyo gyda'r ymchwiliad.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth ac fe fydd cwest yn cael ei gynnal yn y man.